Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Japan yn Troi i'r Dwyrain 1 §1. BYD o bum cyfandir a saith mor yw ein byd ni i'r sawl a ef- rydo helyntion y ddynoliaeth, a gwaith y gwr hwnnw yw ceisio gweled y byd fel y mae, a'i weled yn gyfan. Dyna a wnaeth y Cadfridog Smuts, Tachwedd 13, 1934, yn ei araith olaf y tro diwethaf yr ymwelodd â'r wlad hon. Gwaith Japan yn bygwth troi ei chefn ar weddill y byd gwareiddiedig oedd byrdwn ei araith. Dywedai'r gwr hwnnw, "Wynebwn ar y sefyllfa bwysicaf, fwyaf diddorol a llymaf ei phrawf efallai a welodd hanes erioed. Yn wyneb y sefyllfa sy'n ym- ddatblygu heddiw yn y Dwyrain Pell dylai gwladweinwyr Iwrop ddyblu eu hymdrechion i setlo cwerylon Iwrop cyn yr elo'n rhy hwyr." Cyfeiriai'r Cadfridog, ac yr oedd yn awyddus i'w wranda- wyr ddeall hynny'n eglur, at y ffaith ein bod yn dystion o sef- yllfa ddieithr, na welwyd, yn ôl pob tebyg, ei phwysicach erioed. Yn rhifyn diwethaf Y TRAETHODYDD gwelsom Rwsia'n troi tua'r Gorllewin, i gydweithredu'n well â chenhedloedd eraill. Yn awr cawn wylio mudiad sydd â'i ogwydd i gyfeiriad arall: cawn edrych ar Japan yn troi tua'r Dwyrain. Wrth iddi beidio yn derfynol â bod yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd ar Fawrth 27, 1935,­-er ei bod yn un o'r aelodau cyntaf ohono,-a phan amlygodd ei bwriad ar Ragfyr 29, 1934, i beidio ag ail-arwyddo Cytundeb Washington 1922, rhybuddiodd Japan weddill y ddyn- oliaeth y byddai hi o hynny ymlaen yn ymddibynnu'n gyfan gwbl ar ei gallu hi ei hun i hawlio lle pwysicach yn y byd, He a ystyria Japan sydd yn ddyledus iddi. Dyma gymhwyso ar raddfa fydeang athrawiaeth "Sinn Fein." Bwriada Japan fod unwaith eto'n "feudwy" ymhlith cenhedloedd y byd, a bydd y canlyniadau, yn ôl pob tebyg, yn rhai eithriadol 0 bwysig. § 2. Cyn ymwneud â'r pwnc y sydd dan sylw, goddefer imi nodi ychydig enghreifftiau, o'm profiad personol, o ymwneud â