Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau A BOOKMAN IN THE MAKING, and Other Essays on Mind andi Li/e. Writers and Readers, by James Evans. Edited by John Young Evans. Indeŷendent Press Ltd., Memorial Hall, London. 5/ Llyfr darllenadwy a buddiol yn yr iaith Saesneg ydyw hwn, ac ar faterion Seisnig yn neilltuol; ond gan Gymro glân, sef y diweddar Barchedig James Evans, M.A., Birmingham, un a weinidogaethodd yn olynol mewn tair eglwys Gymraeg dros ysbaid 35 mlynedd. Dywedodd rhywun na ddichon neb fod yn feistr trwyadl ar fwy nag un iaith. Beth bynnag am acen ei dafod wrth siarad ei ail iaith, nid oes ar waith awdur y gyfrol hon, hyd y gwelwn, un argraff o feddwl yn y Gymraeg, nac o lunio brawddegau Saesneg ar gynllun rhai Cym- raeg. Yn hytrach, y maent yn naturiol, ystwyth, a chryf, a'u priod-ddull yn ddi-feth. Clywid unwaith achwyn ar rywrai am lusgo'n ormodol eiriau Saes- neg i'r pulpud Cymraeg. Heb esgusodi'r arfer honno, hawdd yw cyfrif am- dani gan gylch darllen cynifer o'n pregethwyr, sy gymaint helaethach yn y Saesneg nag yn eu hiaith eu hun ac iaith eu gwaith cyhoeddus arferol. A phan yr oedd y pulpud hwyrach yn fwy llyfrol nag y mae heddiw, llithrid i ddefnyddio termau fel y ceid hwynt, heb gymryd y drafferth o chwilio am eu cyfystyron a'u trosi. Rhoed awdur y gyfrol hon yn gynnar ar y ffordd i ymgydnabyddu â rhai o glasuron cyffredinol yr iaith Saesneg, ac ni chollodd byth mo'r blas hwnnw. Lliwiodd hynny ei ddull o feddwl. Diogel yw dywedyd bod y llyfr newydd hwn o'i waith yn fwy llwyddiannus yn llenyddol na'i un Cymraeg ar Foeseg. Mynegir y farn amdano yn y Rhagarweiniad ei fod yn fwy o feddyliwr nag o arddullydd. Ond ni ellir darllen y llyfr drwyddo heb ganfod ei fod yn arfer sylwi'n fanwl ac edmygol ar ffordd y meistriaid o gyfleu gwirionedd. Dar- llenai awduron nid yn unig oblegid y wybodaeth a enillai drwyddynt, eithr yn fwy oblegid yr hyfrydwch a fwynhâi yn eu cymdeithas, heb ddisgwyl am ddim y tuhwnt i hynny. Hapus iawn a fu'r dewis o lith gyntaf y llyfr, ac yn deitl iddo. Llyfrbryf yn dal i dyfu ydoedd hyd y diwedd, heb byth ystyried ei fod wedi cyrraedd y nod. Byd llyfrau oedd ei awyrgylch ddewisol. Synnir ni gan luosowgrwydd ac amrywiaeth y cyfrolau a roddes drwy ei ddwylo. Ceisiai o leiaf ddwy gyfrol yn yr wythnos o'r Llyfrgell Gyhoeddus, at y fil oedd ganddo ar estyll ei efrydfa; ac amlwg yw ei fod yn bwyta'r llyfrau, ac nid rhedeg drostynt yn arwynebol. Deugain o lithiau byrion yw cynnwys y gyfrol hon, wedi eu dethol o blith cannoedd a sgrifenasai i bedwar o bapurau tre Birmingham. Llawenydd yw gweld bod lliaws o bapurau newydd y wlad yn rhoi colofn o leiaf unwaith yn yr wythnos i'r math yma o ysgrifau-a rhai mwy crefyddol drachefn, yn ystyr gyfyng y gair. Gellir yma ddwyn tystiolaeth ddibetrus i fedr a doethineb y Golygydd yn ei ddewis. Mae pob un o'r llithiau hyn ar ffordd fawr diddordeb