Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr awdur, ac wedi eu gosod mewn trefn o olyniaeth naturiol. Ffurfiant gadwyn gref o gynifer o ddolennau, ac y mae'r llyfr yn gyfanwaith er yn fân ddognau. Mae'r pedair cyntaf yn hunanf y wgraffy ddol a rhyngddynt hwy a'r Rhagar- weiniad ceir syniad clir am y dyn, yn nodweddion ei gymeriad a maes ei efrydiaeth. Ychwanegir at werth y gyfrol gan y darlun da ohono ar yr wyneb- ddalen. Gellir galw amryw o'r casgliad hwn yn fyfyr-ysgrifau. Ac er mai einioes frau sydd i bapur newydd, ac yr anghofir un ddoe hyd fesur mawr, haedda'r rhain hir-hoedledd. Wele eto arrested fugitives. Mae'r peth pryd- ferth yn llawenydd am byth; ac y mae'r Uithiau hyn yn brydferth mewn ffaith a ffurf, mewn meddwl a mynegiant. A gwneir y darllenydd yn ddedwydd gan eu prydferthwch. Mae yma ar bob tudalen sylwadau bachog a chraff ar broâadau a chyflawniadau bywyd. Sylwodd yr awdur ar ddynion, yn gystal ag efrydu llyfrau daliodd y naill ar gyfair y ÜaU. Yn y detholiad <hwn mae'r llithiau olaf ar destunau fel y deial, yr hydref, a beddargraffau. Ceir awgrymau cynnil bod yr awdur ei hun wedi sylweddoli bod ei haul yn dechrau suddo dros y gorwel, â hi ond cynnar brynhawn ar ei oes. Cyflymai traed distaw amser yn ei flynyddoedd olaf, a chyrhaeddodd ben ei yrfa yma yn 65 oed. Mae Rhagarweiniad yr Athro Young Evans yn rhan anhepgor a gwerthfawr o'r gyfrol; a'r Ol-nodiad odledig cywrain yn enghraifft o ddawn yr awdur ei ddoniolwch a'i ddewrder, ei ddiwydrwydd a'i ddycn- wch. Y Bala. CLWYDYDD. RICHARD LLOYD CRICCIETH Gan ei nai William George Caerdydd Western Mail a'r Echo, Cyf. 1934. Fel yna, heb atalnod yn unlle arni, y mae wyneb-ddalen y gyfrol hon o 172 td., a'i phris yn 5/ Gwyr miloedd, hyd yn oed y tu allan i Gymru, am Richard Lloyd, oherwydd iddo fod yn dad i ddau fachgen amddifad, ynghyd a'u chwaer, ac yn gefn iddynt hwy a'u mam a daeth un o'r ddau fachgen yn fyd-enwog. Cofia rhai amdano'n mynych ddyfod i'r stesion yng Nghricieth yn yr haf, ac mor ysgafn y cerddai er ei oedran teg, gyda'r het wen â chantal llydan iddi, a'r farf laes honno y tynnai ef ei law ystwyth ar hyd-ddi gan wasgu'r cyfan at ei gilydd, ac yna ei gollwng yn rhydd. Oedd, yr oedd rhywbeth arbennig yn osgo'r corff hwnnw, a mwy fyth yn yr wyneb a'r llygaid. Cyfunid ynddynt yr eryr a'r golomen. Wel, dyma hanes y gwr hwnnw, mewn tair pennod ar ddeg, gyda deg o ddarluniau. A hanes diddorol yw, hanes Cymro, a hwnnw'n Fedyddiwr, ac yn Fedyddiwr yn 61 y sect fanylaf o'n crefydd ni," neu ys dywedir mewn adnod araU "o lwyth Benjamin ymhlith yr enwadau Cymreig. Y mae'n llawn o arwriaeth tawel, penderfynol, hunan-aberthol. Nid oes ddadl ym meddwl neb a ddaeth i gysylltiad ag ef nad oedd Richard Lloyd yn wr o feddwl cryf, anarferol gryf. Naturiol yw gofyn beth tybed a fuasai ei hanes pe gwariasai arno'i hun yr ynni a fynnodd ei gysegru i gyn-