Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

orthwyo eraill: ond nid ef ei hun a fuasai wedyn. Byw i wasanaethu a wnaeth heb feddwl ei fod yn gwneuthur dim ond a ddylai pob Cristion. Y mae yn y gyfrol ddisgrifiad o'r dyn ac o'r cylch y bu fyw ynddo, o fywyd Llanystumdwy'n arbennig. Dyma bortread byw o ddarn o grefydd Cymru. Efallai mai dyna werth pennaf y cofiant hwn. Gwelir ynddo'r cul a'r llydan, yr ysgafn a'r difrifol, wedi eu cyd-wau i'w gilydd. Os cyfyng ydoedd y bywyd, nid arwynebol, ac nid dibleser mohono; un rhagoriaeth ynddo ydoedd gallu tynnu'r pleser allan o'r deunydd oedd o'i amgylch. Gwelir fel y gallai pobl ergydio, yn drwm weithiau: cai blaenor Methodus bwniad yn awr ac eilwaith, efallai nid heb achos weithiau. Dyna effaith nat- uriol meddu argyhoeddiadau ar bynciau crefydd. Pe ceid rhagor o bobl heddiw mor annibynnol eu barn a'u hysbryd, byddai Cymru ar ei mantais. Da oedd i'r nai dynnu'r darlun: edmygedd o'r ewythr a'i symbylodd. Ac eto gwelir bod y nai'n gallu mesur a phwyso'n ddi-duedd, fel y disgwyliwn. Y mae diwyg y gyfrol yn dda; y papur yn drymach nag arfer, a'r llyfr oherwydd hynny'n pwyso rhagor yng nghlorian y llythyrdy na llyfrau eraill o'r un maint. Llithrodd ychydig wallau orgraff a phrint i mewn i'r gwaith gorchwyl anodd yw cadw'r rhai hyn allan. Heblaw caffai am cai (td, 54, 120, 158) sylwasom y ceir yr Côr (55), ddinwed am ddiniwed (134), amharodwydd (136), unruffied am unruffled (139), ac Offeriad am Offeiriad (172). D.F.R. ER CLOD. Saith Bennod ar Hanes M ethodistiaeth yng Nghymru. Dan Olygiaeth Thomas Richards, M.A., D.Litt., Llyfrgeüydd Coleg y Gogledd. Wrecsam Hughes a'i Fab. 1934. 175 tud. 3/6. Anodd cael gwell praw o'r diddordeb dwfn a deimlir yn Naucanmlwydd- iant Methodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru na'r llyfrau a gyhoeddwyd yn ymwneud â'r testun yn ystod y misoedd diwethaf, — The Calvinistic Method- ism of Wales, gan y Parch. John Roberts, M.A., Caerdydd; The Children's Heritage, gan Mrs. Mabel Bickerstaff, M.A., B.D., Aberystwyth; Catecism ar Hanes y Cyfundeb, gan y Parch. W. Nantlais Williams, ac Er Clod, gan awduron y gyfrol hon, sef y Golygydd, Mr. R. T. Jenkins, Mr. Bob Owen, Mr. Owen Parry, a Mr. A. H. Williams. O'r pum awdur mae dau yn Fethodist Calfinaidd, un yn Fedyddiwr, un yn Fethodist Arminaidd, ac un yn Annibynnwr. Mae llawer o briodoldeb yn y trefniad hwn. Gadawodd Methodistiaeth Galfinaidd a'r cynhyrfiad ysbrydol a roddodd fod iddi, eu hðl ar fywyd Cymru i gyd, a mantais ydyw edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau. Nid rhaid i'r ysgrifenwyr wrth lythyrau canmoliaeth. Meddant wybodaeth drwyadl o'r materion yr ysgrifennant arnynt. Agorir y gyfrol gydag ysgrif werthfawr ar ddau arweinydd y ddwy adran Fethodistaidd yn Lloegr a Chymru-John Wesley a Howel Harris. Pwys- leisir y gyfathrach hir a fu rhyngddynt, eu hymweliadau mynych â'i gilydd,