Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diddorol iawn hefyd yw ysgrif y Golygydd ar "John Matthews yr Hynaf," y gwr a droai lawer yng nghwmni cyfreithwyr, comisiynwyr, a pherchenogion tiroedd, ond a'i gadawai hwy os byddai Sasiwn rywle o fewn cyrraedd, cefn- ogwr eiddgar Cenadaethau, Cymdeithas y Beiblau, a'r "Drysorfa," aelod ar lawer o Bwyllgorau pwysig, ac yn eu plith Pwyllgor Coleg Trefecca a'r London Mili Cause. Diolchwn yn gynnes iawn am y gyfrol ragorol hon. Cymhellwn hi yn galonnog i bawb a fyn ymgydnabod â hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Pwysleisir ynddi weddau ar yr hanes na cheir hwynt, neu os ceir hwynt, na chyffyrddir â hwynt ond yn ysgafn, yn y llyfrau arferol ar hanes y Cyfundeb. Gwnaeth Gwasg Wrecsam waith glân a destlus; mae diwyg y Uyfr yn bopeth a ellid ei ddymuno. Lerŷwl. D. D. WILLIAMS. YR ARIAN MAWR a'r CLAWDD AUR, gan Bodfan. Y LLWYBR ARIAN A SAITH STORI ARALL, gan E. Tegla Davies. CYFRINACH YR AFON, gan Steŷhen O. Tudor. Mae enwau dwy stori Bodfan, ac enw cyfrol Mr. Tegla Davies yn edrych fel pe cytunasai'r ddau i ddyfeisio rhywbeth i godi calon y tlawd ar fyd gwan; a phe darllenai'r tlawd y straeon hyn, diau y symudid peth o'r ysgafn- der o'i boced i'w galon,-a chymwynas go fawr a fyddai hynny pe ond am ychydig oriau. Yn "Yr Arian Mawr," gweinidog tlawd o'r enw John Jones sydd yn dod i gyfoeth dibrin yn sydyn, a hanes y cymwynasau a wnaeth â'r arian yw corff y stori; ond y peth mwyaf diddorol i'r darllenydd yw'r ias o watwareg chwareus sy'n rhedeg rhwng cnawd a chroen y stori,­yn dangos fel y mae osgo'r byd a'r betws yn newid at ddyn tlawd wedi iddo fynd yn gyfoethog. Yn ôl pob argoel mae'r stori hon wedi ei hysgrifennu'n fwy neu lai "ffwr â hi,’’­oherwydd y mae rhagoriaethau a ffaeleddau "ffwr â hi ynddi. Rhai o ragoriaethau'r dull hwnnw o ysgrifennu yw nad oes ynddo fel rheol ddim ymdroi diddiben, dim lol na dim rhodres; ond ysgrifennu'r stori fel stori lafar ym min nos wrth y tân,-heb ddim bwlch ond hynny o fwlch y bydd rhaid wrtho i dynnu ac i ollwng mwg o'r bibell. Cyll stori, fel y cyll ffrydlif, lawer o'i swyn pan gollir y carlam rhedegog ohoni. Ceir y nodweddion yna yn yr "Arian Mawr." Mae ynddi, fodd bynnag, rai o ffaeleddau "ffwr â hi hefyd. Un ohonynt yw gosod stori, sydd â chyfran mor helaeth ohoni yn gymwynasau, i'w hadrodd gan y cymwynaswr ei hun. Dan amodau fel yna yr oedd yn amhosibl gwneud John Jones yn gymeriad digon diddorol i beri i'r darllenydd deimlo diddordeb byw yn yr hyn a wnâi â'i bres. Gyda llaw, tipyn o fentar yw i nofelydd alw ei brif gymeriad yn John Jones oherwydd, yn niffyg enw arall, hwn yw'r enw sydd gan Gymro ar bob dyn byw; ac felly mewn stori, y mae'n hawdd iddo brofi yn enw ar gymeriad nad yw yn neb.