Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n amheuthun cael stori ddatgelu­ymadrodd ar brawf yw hwn ar batrwm "stori garu ’’­yn Gymraeg, oherwydd nwydd prin ydyw yn llen- yddiaeth Cymru. 0 ran hynny, nid i lenyddiaeth yn ystyr gyfyng ac urdd- asol y gair y perthyn: cefnder ydyw mewn rhyddiaith i bos croesair mewn rhwydwaith; a'r gamp yw rhoi'r darllenydd mewn penbleth, a chadw'r gyfrin- ach oddi wrtho hyd amser cyfaddas. Saif ar wahân i nofel gyffredin hyd yn oed ym mortread y cymeriadau, oherwydd rhaid gadael mymryn 0 le i bosibilrwydd ysgelder lechu dan groen pob un ohonynt; ac i'r pwrpas hwnnw rhaid taflu peth coegliw (camouflage) drostynt. Ond er nad graen llenyddol yw'r ystyriaeth gyntaf mewn stori o'r fath, mae'r graen hwnnw'n bwysig, ac yn ffodus sicrhawyd hynny yn hon. Ceir yma arddull lân, ddigwmpas,­ arddull addas i'r gwaith mewn llaw. Cymerodd yr awdur fwy baich arno ei hun nag a wneir yn gyffredin Uuniodd ddau ysgelerder yn ymyl ei gilydd, ac nid hawdd oedd iddo ymgadw rhag maglu yn ei edafedd ei hun. Llwyddodd fod bynnag i gario ei faich yn hoyw i ben y daith; ond ar ben y daith profodd hen brofiad Pererin Bunyan, — yr anhawster i gael y baich i lawr. Hon yw'r awr gyfyng mewn nofel ddat- gelu, a cheir yma hefyd arwyddion o'r cyfyngder. Galwyd ar y terfyn ryw fath o gyngor plwy afreolaidd, a cherbron hwnnw y bu'r datgelydd (detective) yn dadrys ac yn dirwyn yr edafedd. Mae'n bosibl y teimla'r darllenydd hefyd nad yw'r cymheUion a ddinoethir ar y diwedd yn ddigon cryfion i gyfrif am yr anfadwaith; ond ni ellir bod yn bendant ar hynny, oherwydd mae grym unrhyw gymhelliad yn dibynnu nid yn gymaint ar natur y cymhelliad ei hun ag ar natur y person y nytha'r cymhelliad ynddo. Dewisodd yr awdur leoli ei stori mewn cylch o fywyd a edwyn, y mae'n amlwg, yn drwyadl,-ardal amaethyddol, a bywyd ffarm. Yno y gosododd ei faglau; a byddai'n dda i'r ffarmwr, ac yn arbennig i'r gwas, pe llwyddai i osod ei gyfrollle y gosododd ei faglau,-ymhob ffermdy yn y wlad. Ceid blas difeth arni, ac efallai symbyliad i gydio yn ddyfalach mewn llyfr. Rhyl. R. DEWI WILLIAMS. ATHRAWIAETH Y DIWEDD. Gan y Parch. R. S. Rogers, M.A., Abertawe. Argraffwyd yng Ngwasg "Y Brython." 297 td. Pris, 5/ Bu Mr Rogers yn hapus yn nheitl ei lyfr, ac wrth roddi teitl i'w gyfrol ef ei hun y mae wedi taro ar yr enw y buom yn hir ddisgwyl amdano i ddynodi'r athrawiaeth a drafodir yn y llyfr. Arferid cyfeirio ati fel "Yr Athrawiaeth am y Pethau Diweddaf." Mewn tipyn o ysgrif i Adroddiad Comisiwn y Methodistiaid (Calfinaidd y tro hwn) ar Athrawiaeth, anturiais ddefnyddio'r gair Esgatoleg wrth gyfeirio at yr athrawiaeth hon. "Pwy ydyw'r Esgatoleg hwnnw y soniwch amdano?" gofynnai pawb i mi, nes cywilyddio ohonof erioed ddefnyddio'r gair. Wedyn bathodd yr Athro Ifor Williams y gair Diwethafiaeth. Rhy ddieithr oedd hwnnw hefyd, gan mai diweddaf a ddy- waid y rhan fwyaf ohonom ni bobl gyffredin, ac nid diwethaf; ac oblegid