Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Pedair Efengyl a'r Actau trwy Wydrau C. C. Torrey Un o feibion yr Unol Daleithiau yw'r Doethor Charles Cutler Torrey, sydd bellach yn athro mewn ieithoedd Semitig ym Mhrif- ysgol Yale oddi ar y flwyddyn 1900. Y mae'n fyd-enwog fel ieithydd, a thalodd sylw arbennig i'r Dwyrain a'r ieithoedd Semitig. Oblegid hynny medd gymhwyster arbennig i draethu ar unrhyw gwestiwn yn delio â materion Aramaeg. Yn wir, cyd- nabyddir ef, hyd yn oed gan ysgolheigion sy'n anghytuno'n llwyr â'i ddaliadau, yn awdurdod ar y cwestiwn o gyfieithu o'r Roeg i'r Aramaeg, ac o'r Aramaeg i'r Roeg. Bu am dros chwarter canrif bellach yn chwyldroi syniadau'r beirniaid am yr Hen Destament. Cyhoeddodd weithiau pwysig ar lyfrau Esra, Eseia ac Eseciel. Conglfaen ei syniadau am yr Hen Destament yw ei ddamcaniaeth am "y Gaethglud." Yn ei farn ef ni bu unrhyw ddychweliad cyffredinol o Fabilon; adeil- adwyd y deml gan ddynion na fuont allan o'u gwlad, ac ysgrif- ennwyd pob rhan o'r Hen Destament ym Mhalesteina. Am y tro rhaid gadael ei ddaliadau chwyldroadol am yr Hen Desta- ment, a'n cyfyngu ein hunain i'w ddysgeidiaeth am y Testament Newydd: yn gyntaf >i'w gyfrol ar yr Efengylau, The Four Gos- pels: A New Translation, am mai dyna ei lyfr diweddaraf; ac, yn ail, i'w gyfrol ar yr Actau, Date and Composition of Acts, am fod Llyfr yr Actau yn faes astudiaeth yr Ysgol Sul yng Nghymru eleni. A Gwyr y cyfarwydd mai Aramaeg ydoedd iaith yr Iesu a'i ddis- gyblion. Y mae digon o brofion ei bod yn iaith gyffredin ym Mhalesteina ers canrifoedd cyn hynny. Yn ôl pob tebyg hyhi