Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Prif Gymeriadau Teulu Trefeca I Mor gynnar â'r flwyddyn 1736 ceir Howel Harris yn ei ddyddlyfr yn datgan ei obaith y gallai ryw ddiwrnod sefydlu Cartref ar linellau cyffelyb i Sefydliadau y Proffeswr Francke yn Halle, yr Almaen, a'r Morafiaid yn Fulneck, swydd York. Fe ddaeth yr un syniad i feddwl George Whitefield, a chorfforwyd ef ganddo yn Georgia yn 1740. Yr Ymraniad a ddigwyddodd yn rhengoedd y Mudiad Methodistaidd yn 1751 a roddes i Harris ei gyfle. Cyf- eiriasom at yr Ymraniad yn ein hysgrif ar Fethodistiaeth Gyn- nar,* a nodasom dri o resymau i'w esbonio: y ddadl ddiwinyddol rhwng Daniel Rowland a Harris, ysbryd unbenaethol Harris, a helynt Madam Grinith. Gwelsom gyfeiriad at reswm posibl arall, ond ymddengys braidd yn far-fctched, sef marwolaeth Frederick, Tywysog Cymru (mab Sior II., a thad Sior III.), yn 1751. Dywedir ei fod yn ffafriol i Fethodistiaeth a phe deuai i'r orsedd y gallasai Arglwyddes Huntingdon ddylanwadu arno i wneud Whitefield yn Esgob. Canlyniad dyrchafiad Whitefield i'r fainc esgobol, wrth gwrs, a fyddai ordeinio Harris a nawddogi'r Diwygiad Methodistaidd a'i hawlio fel ymgyrch o eiddo'r Eglwys Wladol. Darfu gobaith Whitefield am fod yn esgob, a gobaith Harris am urddau yn 1751. II Yn ôl Evan Moses (arolygwr y Teulu wedi marw Harris, am yr hwn y cawn sôn ymhellach ymlaen), yn Ebrill 1752 y dechreu- odd Harris adeiladu'r mynachlog castellog Protestannaidd ar y llecyn y safai ei hen gartref arno. Yr oedd Madam Griffith gydag ef "yn dodi sylfaen y ty i lawr mewn gweddi," rhyw ddau fis cyn ei marwolaeth. Daeth amryw o ddisgyblion ac edmyg- wyr Harris i Drefeca yn 1752, rhai i aros, rhai dros dro i wrando ac erbyn 1756 yr oedd tua chant o bobl wedi ymuno âJr Teulu. Daethant o bob rhan o Gymru, mwy o'r Gogledd Gwel. Y TRAETHODYDD, Hydref 1934, ac Ionawr 1935.