Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cadwmigei'r Achos" NEWYDD fod o dan adgyweiriad yr oedd y Capel Mawr, Llan- llwynedd, pan fum i ynddo gyntaf. Clywid arogl paent ffres yn drwm arno. Heblaw bod o'r hen addoldy braf dan oruchwyl- iaeth y trwsio a'r paentio, yr oedd y Festri Fawr wrth ei ochr hefyd wedi ei gweddnewid. Yno y bu'r newid mwyaf. Daethai'r blaenoriaid, unarddeg ohonynt, i'r penderfyniad, ar ôl gosod yr achos o flaen yr eglwys, y gellid hepgor darn ohoni a'i wneud yn ystafell gyfarfod i'r gweinidog a'r blaenoriaid. Arferai'r "Seiat" â llenwi'r hen Festri ar un adeg, ond .erbyn hyn daethai tro ar fyd, ac anaml y byddai'n hanner llawn, oddigerth y byddai rhyw achos arbennig ar droed, megis basâr, cyngerdd, neu achos o ddisgyblaeth. Yr oedd ystafell newydd gampus wedi ei chael ohoni, heb dolli rhyw lawer arni. Adeiladydd medrus yn llwyddo'n gyflym yn y byd ydoedd John Jenkins, y blaenor ieuengaf. Efô oedd un o'r pedwar diwethaf i gael eu dewis. Yr oedd bwrdd derw graenus wedi ei osod yn yr ystafell newydd, a chadeiriau esmwyth o'i gwmpas. Nid cadeiriau cefn- uchel celyd, ond cadeiriau braf â'u breichiau ar ffurf pedol yn troi ar golyn yn hwylus. Hefyd gosodwyd darluniau o'r hen weinidogion a'r hen flaenoriaid i fyny ar y muriau, yn rhes drefnus yn ôl eu teilyngdod. Bu'r Capel Mawr am gyfnod heb weinidog wedi marw'r Hybarch Abel Morgan, a disgynasai gwywdra gaeaf yn o drwm ar yr eglwys. Erbyn hyn daethai argoel gwanwyn eilchwyl ar ddyfodiad y Parch. Gwilym Gwyngyll Jones, B.A. yno i'w bug- eilio. Efô a John Jenkins y Bildar fu â'r llaw fwyaf amlwg yng nghynllun yr ystafell newydd. Digwydd mawr o fewn cylch go fychan ydoedd y cyfarfyddiad cyntaf ynddi. Daeth yr un blaenor ar ddeg yno'n brydlon i'r seremoni, pedair cenhedlaeth o flaenoriaid. Un yn unig oedd yn fyw o'r tô cyntaf, a Huw Huws, Cwmtrwsgwl, oedd hwnnw. Yr oedd ef erbyn hyn wedi goroesi ei gyfoedion a myned heibio i garreg filltir yr hen addewid, ond yn chwim ei feddwl, er yn fusgrell ei draed. Yn unol a'i arfer feddylgar aeth John Jenkins