Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolf Hitler I. Dylanwadau ei fabocd yn Awstria a'i wasanaeth yn y Rhyfel Mawr arno. Ganed Adolf Hitler yn 1889 yn Braunau, tref fechan yn Awstria. Y pryd hwnnw, ffurfiai Awstria ran o Ymerodraeth Awstria-Hungari, ac am flynyddoedd cyn hynny, ac ar ôl hynny, gweithiai'r hen deyrnas hon law yn llaw ag Ymerodraeth Ger- mani yng ngwleidyddiaeth Ewrop, ond siomedigaeth fawr a fu'r Rhyfel i'r gwledydd hyn. Ysgarwyd Hungari oddi wrth Awstria, a gwnaethpwyd yr olaf yn wlad ar ei phen ei hun; ac y mae mwy- afrif mawr y bobl a gynhwyswyd ynddi yn Ellmynaidd eu hysbryd, ac Ellmyneg yw eu hiaith. Oni bai am ystyriaethau gwleidiadol cymhleth, byddai uno Awstria â Germani yn lles iddynt ill dwy. Nid oes wlad y llochesir yr iaith Ellmyneg a thraddodiadau Ell- mynaidd yn fwy gofalus ynddi nag yng ngwlad enedigol Cang- hellor presennol Germani. Saif Braunau ar lan yr afon Inn: perthyn y lan arall i Bafaria, un o ranbarthau Ymerodraeth Germani. Swyddog yn y dollfa oedd y tad. Danfonodd ei fab i ysgol ganolradd Linz. Er na fu Adolf yn llwyddiannus mewn rhai arholiadau, fe ddywedir i wersi ei athro mewn Hanes adael argraff barhaol ar ei feddwl: dysgai hwnnw ddamcaniaethau eithafol ynghylch rhagoriaeth yr adran Ellmynaidd o'r hil ddynol. Oherwydd ei aflwyddiant mewn ar- holiadau ac oherwydd marwolaeth ei dad cyn i'r bachgen gyr- raedd un ar bymtheg oed, gorfu iddo roddi i fyny ei fwriad o gymryd cwrs mewn Pensaerniaeth. Aeth i fyw i Vienna, ac yno chwaraeodd am dipyn â'r syniad o fod yn arlunydd, ond gan i'w arian ballu, anghenraid a fu arno gymryd gwaith achlysurol fel cynorthwywr i baentiwr tai. Dyma'r cyfnod," medd awdur y llyfr a droswyd i'r Saesneg dan y teitl Why Nàzi?' (1933), "y gosodwyd sylfaen ei yrfa boliticaidd ynddo. O'r disgrifiad a rydd yn ei hunangofiant,