Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau MEDDYLIAU PULESTON. Caernarfon Llyfrfa'r Cyfundeb. 124 tud. 2/6. Y mae'n debyg bod gan bron bob gweinidog silff cyfrolau parod wrth law." Nid oes amheuaeth gennym na ffeindir Jle ar y silff honno i'r gyfrol ddestlus hon o fân-ysgrifau y diweddar Ddr. Puleston Jones—neu Puleston fel y mynn ei genedl ei gofio. Cawsom eisioes gofiant penigamp o law'r Parch. R. W. Jones, M.A., Caergybi, ac yn awr fe'n rhoes yn ei ddyled eto trwy gyhoeddi'r ysgrifau hyn. Cyn sôn dim am gynnwys yr ysgrifau rhown ddiolch i Mr. Jones am y gymwynas werthfawr a wnaeth â ni. Nid oes neb a gofia wyneb Puleston, y rhadlonrwydd braf a guddiai gryf- der ei ddynoliaeth lydan, — ílbroad as ten thousand beeves at ýasture" — na ddaw'r mawrfrydigrwydd hwnnw i gof drachefn a thrachefn wrth ddarllen y Meddyliau. Gweithiodd ei hun i mewn i deithi ei feddwl, a down o hyd iddo mewn cyflead, mewn barn, yn ei ddull o drin problemau, ac yn ddifêth yn ei idiomau. Y mae'r rhain yn ddigymar, ac ynddynt hwy y cawn ddistyll y gyfaredd honno a wnâi Puleston yr hyn a'r hwn ydoedd. Gellid amlhau eng- hreifftiau 0 idiomau meddwl ac ymadrodd Puleston nes adgynhyrchu'r llyfr. Bodlonwn ar nodi ychydig ohonynt. Yn yr ysgrif gyntaf un, ac yntau'r pryd hynny yn wr ifanc, dengys y duedd oedd ynddo i ddyfeisio cymariaethau addas. Sonia am wneud darlun yn fwy byw trwy ei hel i graidd." Y mae'r ysgrifau eraill, ffrwyth ei flynyddoedd addfed, yn dryfrith o ymadroddion na perthynai i neb arall eu dweud. Wrth gyfeirio at adnodau cysur dywaid "Dyma lle ces i lond fy nghalon o ddiddanwch." Pwy fyth ond efo a feddyliai am gysuro'r credinwr trwy ei sicrhau "ei fod yn destun siarad yn y drydedd nef," neu a ddisgrifiai'r Ymgnawdoliad trwy ddweud bod Duw yn gadael ei "dragwyddoldeb distaw "? Yr oedd Puleston yn wir debyg i'r pren beiblaidd a roddai ffrwyth yn ei bryd ac a gadwai ei ddail. Ac er pob gwrtaith addysg a gras ni ddifethwyd ynddo gnotiau diddorol ei dwf naturiol. Y rhain oedd ei gynhysgaeth a'i athrylith. Anodd yw gwybod sut nac ymh'le i ddechrau sôn am fater yr ysgrifau. Ym- drinir â pob math o broblemau, ond problemau ydynt, bob un, yn dwyn per- thynas â diwylliant crefyddol. Meddai Puleston y ddawn i drafod cwestiwn hollol gynefin, a thrwy ryw dro nodweddiadol yn ei feddwl, mewn un frawddeg efallai, agorai ystyriaethau hollol annisgwyl, a gadael y gwrandawr neu'r dar- llenydd i ryfeddu na ddigwyddasai ar y syniad ei hunan droeon. Y mae digon o enghreifftiau o hyn trwy gydol y llyfr. Efallai mai'r un a ddaw i'r meddwl gyntaf yw ei ymdriniaeth ar Ympryd. Codir yr ymdriniaeth rhag blaen o lefel defod, a gwelir agweddau moesol yr angen am ympryd yn dod i'r golwg. Cyrraedd y cyflead moesol hwn ei begwn uchaf pan gymhwysir egwyddor ym-