Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fel "Creithiau Nerth," "Y Cristion ac Ympryd," ei dreiddgarwch moesol mewn ysgrifau fel "Cydwybod," a "Dweud Anwiredd"; ei onestrwydd an- hyblyg yn "Awdurdod y Beibl" lle y dywaid, am wybodaeth newydd, na wyr ef "nad ydym yn pechu diwygiadau oddi wrthym trwy wrthod arweiniad amlwg Ysbryd Duw." A dyna'r tirioni a'r tynerwch hwnnw oedd mor hysbys drwy Gymru pan oedd Puleston yn fyw yn tywynnu drwy'r anerchiadau a draddododd mewn seiat, cymanfa neu gymdeithasfa. Yn wir y tu ôl i'r llyfr hwn, a rhywfodd ynddo a thrwyddo, y mae gwên nas anghofia'r sawl a'i gwel- odd. Y mae brawddeg o'i eiddo ef ei hun yn disgrifio Puleston a'i waith, "Y mae'r pren sydd a'i frigau hyd y nef a'i wreiddyn ar y ddaear." Ebbw Vale. R. Meirion Robests. LLYWODRAETH Y CESTYLL (1282—1485). Cyfres Hanes Cymru III. Gan W. Ambrose Bebb, M.A., Bangor. Hughes a'i Fab. 1923. Td. 1-239. 2/6. Dyma'r drydedd gyfrol yng Nghyfres Hanes Cymru o waith Mr. Bebb a gellir dywedyd ar unwaith ei bod yn un hynod o ddiddorol. O'r cyfnod bore hyd 1282, bu gwaith safonol Syr J. Edward Lloyd yn gefn ac yn garn i'r rhan fwyaf ohonom, ond o dipyn i beth llenwir y bwlch mawr rhwng dyddiau Edward II. ac Edward VII. â llawlyfrau rhagorol gan haneswyr cymwys fel Mr. R. T. Jenkins, Mr. H. T. Evans, ac eraill. Cymer Mr. Bebb, yntau, ei le yn eu plith, ac y mae'r cyfraniad presennol yn un gwerthfawr, yn un clir ac yn un darllenadwy. Er ei ysgrifennu'n bennaf, yn ôl y rhagair, ar gyfer bechgyn a merched o 11 i 16 oed a chyfeirio o'r awdur lawer tro at gyfrol flaenorol, saif Llywodr- aeth y Cestyll ar ei ben ei hun, ac ar ôl darllen y llyfr hwn bydd gennym syniad da am y ddwy ganrif gyffrous yma yn hanes ein gwlad. Da y gwnaeth Mr. Bebb yn adrodd yr hanes drwy ddisgrifiadau byw o brif arwyr y cyfnod fel Dafydd, brawd Llywelyn, Owain Glyn Dwr, Mathew Goch a Harri Tudur ac eraill. Ac nid oes angen iddo ymddiheuro am drethu cymaint ar feirdd y cyfnod, oherwydd drwy eu gweithiau helpir ni i weled drosom ein hunain pa fath ar bobl a pha fath ar fywyd beunyddiol a oedd yng Nghymru gynt. Dwy bennod eithriadol o ddefnyddiol yw'r v. a'r xiv., lle darlunir bywyd cyffredin Cymru yn y naill ganrif a'r llall. Daw gallu Mr. Bebb i ddisgrifio'n fyw i'r golwg yn y penodau hyn ac yn y bennod olaf (xvii.) ar ymdaith Harri Tudur o Aberdaugleddyf i Faes Bosworth. Dywedwyd digon i awgrymu nad esgyrn sychion yr hanes a geir yma, ac amlwg yw fod yr awdur wrth ei fodd yn ail-adrodd hanes y ddwy ganrif sy'n faes y llyfr hwn. Y mae ei arddull yn fyw a digon o liw arni, a'i iaith yn ystwyth a chartrefol os rhywbeth, y mae'n ormod felly yn awr ac eil- waith (andros o wers, anferth o drafferth, Tudur Penllyn yn "claddu" ei fwyd, rhywun arall "ar gefn ei geffyl," &c.). Ar yr tu tudalen ceir trefi a trefydd, ac un o driciau arddull yr awdur yw ail-adrodd gair ychydig yn rhy fynych (araf bach, bach; anodd, anodd, &c.) a cheir weithiau eiriau tipyn