Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ddieithr (llaer, pencauna, etc.). Ond drwyddo draw y mae Cymraeg Mr. Bebb yn raenus ryfeddol, ei frawddegau'n fyw a'i ddychymyg yn effro, a rhoddes inni lyfr gwerthfawr ac un y gellir dibynnu arno fel disgrifiad a dehongliad teg o fywyd Cymru o farw Llywelyn ein Llyw Olaf hyd ddyddiau Harri Tudur. Y Bala. G. A. EDWARDS. GRAMADEGAU'R PENCEIRDDIAID. Casglwyd a golygwyd gan G. J. Williams ac E. J. Jones. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru. 1934. 21/ Ni ellir mewn adolygiad byr roddi syniad cywir a theg am gynnwys cyí- oethog y gyfrol hon, nac ychwaith am drylwyredd ymchwil, manylwch ymdrin- iaeth a chyflawnrwydd trafodaeth sydd mor eglur ynddi drwyddi draw. Crynhowyd yn y "gramadegau" y cyfarwyddyd a roddid i'r disgyblion yn ysgolion y beirdd, ac at amcanion y gyfrol hon chwiliwyd pob llawysgrif Gymraeg sydd ar gael, ac ynddi gopi o ramadeg neu ddarn o'r cyfryw. Ni i bydd yn rhaid i neb wneuthur hynny eto; y mae yma wybodaeth gyflawn a therfynol amdanynt a fydd yn sylfaen i bob ymholiad pellach â ffynonellau a datblygiad "cerddwriaeth Cerdd Dafod." Ni allasai neb ond Mr. Williams gynhyrchu'r Rhagymadrodd o ymron gan tudalen (xiii.­cxi.), canys ganddo ef yn anad neb arall yr oedd y wybodaeth angenrheidiol am y llawysgrifau a'r amgyffred o'u cysylltiadau, a thyfasai't rhain o gynefindra maith a chyson â chynnwys a hanes y gwahanol gasgl- iadau. Ceir yn y Rhagymadrodd dair adran. Yn Adran I. trafodir y gramadeg- au" hyd at Eisteddfod Caerfyrddin, h.y., tua chanol y bymthegfed ganrif. Amrywiol ffurfiau yw'r llyfrau hyn ar y Gramadeg a briodolir i Einion Offeir- iad a Dafydd Ddu o Hiraddug, a thrinir yn ddeheuig yr hyn a ellir ei gasglu am hanes y ddau a'r rhan a gymerth y naill a'r llall ohonynt yn llunio'r Gramadeg. Gwnaethpwyd hyn drwy ymchwil fanwl ryfeddol i gynnwys yr un llawysgrif ar hugain a geir ohono, a'u perthynas â'i gilydd. Y mae'r adran hon yn ystôr o wybodaeth werthfawr, o gasgliadau pwysig ac o awgrymiadau diddorol. E.e., wedi sôn am y gred (td. xix.) mai'r un oedd Dafydd Ddu a Roger Bacon, a dweud nad oes sail iddi, ychwanegir ei bod hi'n ddiddorol sylwi bod Bacon yn rhoddi pwys arbennig ar astudiaeth o ramadeg ac ar ysgrifennu gramadegau i ddisgrifio ieithoedd eraill heblaw'r Lladin. Ar ôl y gosodiad (td. xxiv.) bod dwy ffynhonnell i'r llawysgrifau a'u bod yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd, "oni cheir rhagor o oleuni," meddir, ni welaf fod modd i neb brofi bod y naill ffynhonnell yn cyn- rychioli'r gwaith fel y daeth o law Einion Offeiriad a'r llall fel y golygwyd ef gan Ddafydd Ddu," ac am ddyddiad llunio'r Gramadeg, a chaniatáu mai tua 1322 y gorffennwyd hynny "nid yw'n debyg bod y testunau sydd yn y llawysgrifau cyn gynhared â hynny (td. xxviii.), ac er na ellir pendantrwydd, eto ymddengys mai yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg y cyfansoddwyd rhai o'r englynion a gynhwysir yn y testunau (td. xxix.).