Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ddiwedd yr adran hon (td. xxix.-xlii.), dadansoddir cynnwys y Gramadeg-(a) ymdriniaeth â'r llythrennau, (b) y sillafau a'r diptoniaid, (c) y rhannau ymadrodd a chystrawen, (ch) mesurau cerdd dafod, (d) y beiau gwaharddedig, (dd) y modd y dylid moli pob peth, a'r hyn a berthyn ar brydydd, a'r Trioedd Cerdd-ac ymdrinir yn gyflawn â'r dylanwad Lladin arno, ac â'r gwahaniaethau a'r ychwanegiadau yn y gwahanol gopïau. Yn Adran II. traethir ar y "gramadegau" o adeg Eisteddfod Caer- fyrddin ymlaen. Rhoddir yn gyntaf ystyriaeth fanwl i le'r Eisteddfod honno yn hanes Cerdd Dafod, a'r newid mawr a ddeilliodd ohoni ar y gramadeg," ac un o gymwynasau lluosog Mr. Williams ydyw mesur a phenderfynu lle a rhan Dafydd ab Edmwnd yn y newid hwnnw. Deddfiadau Caerfyrddin a ddilynwyd gan benceirddiaid yr unfed ganrif ar bymtheg," ac ni newid- iwyd dim arnynt yn y ddwy eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerwys (td. xlv., a gw. hefyd lxxv.-vi.), a dyna ddymchwel y gred mai Tudur Aled a wnaeth y trefniant terfynol ar y cynganeddion. Ceir wedyn restr o'r trigain namyn tair llawysgrif o'r gramadeg yn ei ffurf newydd a helaethach, y Pum Llyfr Rerddwriaeth fel y gelwir ef yn gyff- redin. Olrheinir eu hanes a'u helynt, a hefyd, fel â llawysgrifau'r hen ramadeg," ymdrinir yn ofalus â'u perthynas a'i gilydd. "Y mae'n gwbl eglur fod gan Ruffydd Robert gopi wrth ei ochr pan ysgrifennai ei Ddosparth Byr," ac y mae copïau o wahanol fersiynau yn llaw Siôn Dafydd Rhys rhan o'r deunydd a gasglodd ar gyfer ei Ramadeg (td. Iviii.); yn y llyfr Dosparth Edeyrn Davod Aur "ni wnaeth Ab Ithel ddim ynglyn â'r testun" (td. lx.). Dilynir hyn gan drafodaeth faith o gynnwys y Pum Llyfr (tdd. lxi.- lxxxviii.), yr ychwanegiadau at y gramadeg cyntaf, ffynhonnell Ladin amryw adran, yn arbennig yr Ail Lyfr, y dwned ynghymraec (" nid yw'r cyfan namyn cyfieithiad neu grynodeb' o gynnwys gramadegau Lladin," td. lxix.), y pedwar mesur ar hugain fel yr ad-drefnwyd hwy yn Eisteddfod Caer. fyrddin, a'r beiau, a dangosir mai Simwnt Fychan oedd y cyntaf i roddi ar bapur yr hyn a ddysgid am y cymeriadau (td. lxxiv.), am y cynganeddion (td. lxxvi.), ac am y beiau (td. lxxviii.). Pwnc Adran III. ydyw "Addysg y Beirdd fel y ceir amgyffred ohoni yn y "gramadegau," yn "Statud Gruffydd ap Cynan," yng ngramadegau ar- graffedig y i6eg ganrif, ac yng ngweithiau'r beirdd eu hunain; pa fath wybod- aeth a ddisgwylid gan wahanol raddau'r disgyblion, a pha fodd y cyfrennid y wybodaeth honno. Cynhwysai'r addysg hyfforddiant mewn hanes, iaith ac achau. Gyda "hanes" âi "cyfarwyddyd" ac ystoriâu (td. xci.), a golygai iaith nid yn unig astudio'r hengerdd a dysgu geiriau a dulliau ymadrodd yr hen benceirddiaid, a meistroli'r dosbarth ar y sillafau a'r dipton- iaid," ond hefyd "gelfyddyd gramadeg neu'r 'dwned'" (td. xcv.). "Nid oes gennym ddim prawf pendant fod beirdd Cymru wedi astudio'r dwned cyn amser Einion Offeiriad, ond o'r cyfnod hwnnw ymlaen yr oedd yn rhan bwysig o'r addysg a gyfrennid yn ysgolion y beirdd (td. xcvi.).