Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ach i'w goffáu a'i bortreadu. Mewn amlder cynghorwyr y mae diogelwch; ond nid yw lluosogrwydd o awduron i un gyfrol bob amser yn sirchau iddi undod na chysondeb. Rhydd i bob un ei farn, a rhydd i bob barn ei llafar eithr nid rhwng yr un cloriau, os ewyllysir osgoi Babel arall. Anodd fyddai cael hyd i neges llyfr, na chlywed llais gan y swn, petai pob un o'i naw sgrif- enwyr yn mynnu mynegi ei feddwl ei hun yn annibynnol ar ei gyd-awduroa. Beichus hefyd a fyddai llawer o ail-adroddiadau mewn llyfr. Rhaid bod cymeriad David Jenkins yn un cryf, a'i ddoniau'n lluosog ac amrywiol, i'w gwneud yn bosibl i gynifer o bersonau cymwys ddwyn tystiol- aeth mor gytûn yma i'w safle ef fel cerddor ac i'w ddylanwad dyrchafol yn y wlad. Mae chwech o'r naw yn gerddorion galwedigaethol; a diau nad yw'r tri arall yn gwbl ddieithr i'r gelfyddyd. Clybuwyd son am "gythraul y canu," un o'r bryntaf o'i frodyr-os ydynt hwy'n ffurfio teulu Dwyn anghytsain i mewn yw ei briod waith; eithr ni ddisgyn ar y gyfrol hon gysgod tywyll unrhyw ysbryd aflan. Ei Golygydd yw Mr. J. H. Jones, Cyn-Olygydd Y Brython, ac ef sydd wedi cyfleu a phenawdu'r ysgrifau, yr hyn sy'n warant o'u pertrwydd a'u clec Ysywaeth llithrodd dau o'r naw tu hwnt i'r llen cyn ymddangos o'r llyfr, sef John Lloyd, Penydarren, a Daniel Protheroe; y naill yma'n trafod Ei Fro a'i Febyd," a'r llall Ei Waith a'i Wreiddioldeb." Da yw iddynt hwy fedru anfon eu cyfran i law mewn pryd, er i'r gyfrol ym- droi'n lled hir ar ei thaith. Prin bod neb arall a allasai wneud, 0 leiaf, waith Mr. Lloyd mor fanwl a byw. Y genhedlaeth honno, hi a aeth heibio bellach braidd yn llwyr. Prawf yr ysgrif hon eto unwaith mai'r plentyn yw tad y dyn. Brigodd rhai o nodweddion amlycaf y cerddor aeddfed i'r golwg yn ei faboed: "Nid oedd seguryd yn ei groen;" "Atebodd fi pan onid deunaw oed, Amheuwch a fynnoch, mynnaf ddod yn gyfansoddwr o nod.' "Hoffai farddoniaeth yn fawr, dysgodd ar ei gôf lawer darn o eiddo Islwyn, Ceiriog, ac eraill." Ganed ef mewn bwthyn yn Nhrecastell, Brycheiniog bu farw yng Nghastell Brychan," Aberystwyth, wedi gorchfygu Uu o rwystrau, a mwyn- hau parch ac ymddiried y genedl. Mae teyrnged Dr. Protheroe yn un deg a beirniadol, ac nid yn rhith-folawd syrffedol," chwedl y Golygydd. Wedi ymsefydlu ohono yr ochr arall i Iwerydd gwelai'r cerddor hwnnw eto'n glir- iach o'r pellter; a dywaid ef yr hyn a awgrymir gan eraill yma hefyd, sef y nodweddid y cyfansoddwr gan gryfder a nerth yn fwy na swyn. Ond ych- wanega, "Yr oedd llawer o wreiddioldeb yng nghyfansoddiadau Jenkins, ac nid oedd iddo efelychwyr. Ni ellir dywedyd iddo erioed chwarae i'r galeri." A dichon fod yr ail beth hwn yn dilyn y cyntaf, megis wrth natur. Yr oedd cymaint o argyhoeddiad y galon ynddo nes torri'i lwybr ei hun, fel na faidd dynwaredwr mo'i ddilyn: y pethau salaf a gwannaf a efelychir fel rheol. Naw o'i Gydnabod," meddir am yr awduron (ac nid "Naw o'i Gyfoed- ion," fel sy'n amryfus ar glawr y llyfr), ac unsain yw eu moliant. Gweddus iawn yw cael y bennod Ragarweiniol gan ei weinidog yn yr eglwys Saesneg yn Aberystwyth, sef y Parch. Richard Hughes. A dechrau ef ei ysgrif, a'i gorffen hefyd, drwy ddyfynnu o'r Apocryffa: "Ceisiodd allan felystra cerdd;" "A'i holl galon y canodd ef ganiadau, ac y carodd yr Hwn a'i gwnaeth."