Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr oedd y dyn ei hun yn anthem ac yn sant, ac yntau yn Ddafydd Frenin ar orsedd Cân. Gwnaeth y cerddor hwn ei orau beunydd yn ei eglwys gartref, o wir hyfrydwch yn ei orchwyl. Yn Saesneg y gadwyd pennod y Parch. Ddr. Lucius Morgan yn y llyfr, honno eto'n dystiolaeth serchog iawn, fel y disgwylid oddi wrth gyd-efrydydd yng Ngholeg cyntaf y Brifysgol, yn Aberystwyth, yn nydd y pethau bychain, a gwawr Cerddoriaeth fel elfen hanfodol mewn gwir ddiwylliant: erys congl o "wyll" yn natur dyn, hyd oni feithrinnir ynddo serch at fiwsig seiniau a phethau. Y chwe cherddor arbenigol sydd yma'n rhoi teyrnged i'r Athro yw, Dr. Lloyd Williams, yn traethu ar "Y Cerddor cyn D. Jenkins," Dr. David Evans ar "Ei Orchestion er ei Anfanteision," Mr. J. T. Rees ar Ei Ddygnwch fel Efrydydd," Dr. Hopkin Evans ar "Cael ei Fendith a'i Fantell," a Mr. G. W. Hughes ar "Ei Bedwar Camp," sef fel Arweinydd, Beirniad, Llenor, a Gol- ygydd; heblaw Dr. Protheroe, a enwyd yn barod. A dywaid pob un ohonynt rywbeth amdano fel cyfansoddwr; ac ychwanegir rhestr o'i Weithiau amryw- iol gyda'i gilydd ar ddiwedd y gyfrol. Tybed hefyd nad yw ei Donau Cyn- ulleidfaol mor deilwng o le ar restr felly â'i Ganeuon neu ei Anthemau? ond nid enwir hwynt. Nid yw pob bardd, 0 lawer, yn Emynydd llwyddiannus; ac nid pob cerddor, uchel yn ei grefft, a ddichon gynhyrchu tôn y bydd gwlad yn ymaflyd ynddi, a'i dal yn ddiollwng am dymor maith. Bu Mr. Jenkins yn arweinydd Cymanfaoedd poblogaidd am flynyddoedd lawer; ac mewn rhai cylchoedd, megis Penmachno, a Gogledd Môn, ni fynnid ei newid. Yr oedd ei ddarllen o'r emyn yn wledd, ac yn arweiniad ynddo'i bun. Ben- dithiwyd ef â llais cyfoethog, llefarai gydag awdurdod, pigai ei eiriau pwys- fawr o'r emynau, a chyrchai at uchafbwynt gorfoleddus. Nid oedd mor hael ei ganmoliaeth ag lambell arweinydd, a mynnai astudrwydd a difrifwch gadodd wersi gwerthfawr, ac ymarferol, ar ei ôl, a gwnaeth y Gymanfa yn foddion effeithiol i ddyrchafu'r canu. Dyn o feddwl ysbrydol, a bardd yn yn gystal â cherddor o anian, a fedr gynhyrchu awyrgylch grefyddol fel y gwnâi ef; ac heb hynny nid yw'r canu mwyaf celfydd a chywir yn foliant i Dduw. Adgynyrchir cymeriad David Jenkins yn wych ger ein bron yn y Gyfrol Goffa hon yr ydym eto dan ei fatwn, yn dysgu wrth ei draed, ac yn gweled drachefn ei weledigaethau ef. Teilyngai gofiant, a pharatowyd un teilwng iddo. Gadodd enw ar ei ôl fel y mynegid ei glod; dwg yr atgof amdano dawelwch a gobaith i feddyliau llaweroedd. CAE'R GO Yr Arloeswr Sol-ffa yn Sir Gaemarfon. Pwllheli Argraffwyd gan Rd. Jones. 112 td. Lliain 2/6; amlen bapur, 1/6. Enghraifft yw hon o'r dull o alw'r preswylydd ar enw'r preswylfod. Ceir hyn ymhlith cyfeillion mewn llawer ardal; ond iaith lafar yr ystyrir hi'n gyffredin. Dichon bod ei gosod yn deitl Uyfr, fel hyn, yn golygu bod y cyf- eillgarwch yn un mynwesol, ac yn rhoi hawl i arfer rhyddid, onid rhyw fath o hyfdra. Gwelsom yr un dull yn rhai o straeon Ian Maclaren ac eraill a ddisgrifiodd, mewn dull cartrefol, bobl cymoedd diarffordd yr Alban. Cymer rhai o'r Arglwyddi eu teitl hwythau mewn ffordd felly. Ond yma un o'r werin