Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATBLYGIAD DUW. Efrydiau Diwinyddol. W. D. Davies (Ysgolor o Goleg lesu, Rhydychen). Caernarfon Llyfrfà'r M.C. 288 tud. Pris 3/6. Egyr y gyfrol yma o waith y Parch. W. D. Davies, M.A., B.D., mewn cwyn, a chaeir hi mewn tristwch. Yn erbyn diwinyddiaeth y mae'r gwyn. Wrth feddwl am ddyfodol crefydd y mae'r tristwch. Bernir bod Duw ar drai. Eithr cydrhwng y dechrau a'r diwedd y mae cryn lawer o wybodaeth, ac o feddwl. Cystal â hynny, fe roddir y ddau inni yn ffres, heb flas llwydni arnynt o gwbl. Gedy'r llyfr, hwyrach, argraff wahanol arnom, yn ôl ein chwaeth a'n syniadau, a gallaf feddwl am rai yn gwrthod cryn lawer o bethau ynddo-yn wir, mi gydnabyddaf fy mod yn eu gwrthod fy hun-ond ni allaf feddwl am neb yn hepian wrth ei ddarllen. Y mae ynddo aml frawddeg i'n cadw'n effro, ac mae'r cwbl yn ddifyr a blasus. Nid teithio'r gwastadedd yr ydym, na'r uchelderau ychwaith, onid ar funud neu ddau; ond llamu'r ceunentydd, a tharo ar ambell lecyn digon ddiffaith, a chyrraedd Wel dyna'r pwnc. Nid ydym yn hollol sicr pa Ie yr ydym. Ofnaf nad yw'r awdur ei hun mor bendant ag y bu unwaith. Fel ein harweinydd, gresyn iddo dafiu'r cwmpawd i ffwrdd yn y Rhagarweiniad, oblegid onid yw ei gondemniad llym ar ymdrechion diwinyddol yr oesoedd yn gondemniad hefyd ar ymdrech meddwl dyn i geisio deall Duw ? A bwrw na all rheswm byth gyrraedd sicr- wydd perffaith, ein rheswm, pan oleuer ef â'r Ysbryd Glân, yw'r cyfrwng sicraf sydd gennym. Ond teifl yr awdur y cwmpawd ymaith. Er enghraifft: Hyfrdra ynfyd, yn ogystal ag athroniaeth ddiwerth, yw ymgais diwinydd- iaeth drwy'r canrifoedd i ddisgrifio Duw a'i berson a'i briodoleddau mewn cyfres o erthyglau" (td. n). Bodlona hebddo hefyd ar y diwedd (gweler td. 286 a 287). Gan mai olrhain twf a datblygiad y syniad, yn ogystal â'r profiad, 0 Dduw y mae'r awdur, a'n harwain drwy hanes rhywbeth sy'n tyfu, ac yn grymuso, ac yn gwella, rhywbeth sy'n dod yn fwy rhesymol yn ogystal â dod yn fwy teimladwy, a chan fod crynswth y llyfr, gan hynny, yn gadernid i'r grêd bod gan ddyn allu, a gallu eithriadol i lunio'i feddyliau am Dduw'n drefnus; gan hynny, meddaf (yn barchus), y mae geiriau eithafol yr awdur yn nechrau a diwedd ei lyfr yn anodd eu deall. Onid yw fel dyn wedi gwneuthur llestr, a'i fwrw (chwedl yr hen Omar) yn deilchion ar y llawr drachefn "? Testament yr Iddew y gelwir y rhan gyntaf. Hwyrach y dylid cofio bod yr hanes yma wedi ei ysgrifennu eisoes, droeon, yn Gymraeg, ar gyfer y werin feddylgar. Gallasai'r awdur, efallai, pe'n dymuno traethu ar yr H.D. o gwbl, wneud yn well wrth roddi ymdriniaeth fyw, yn ei ddull ysgafn, a chyda'i feddwl clir, athronyddol, ar ystyr a gwerth y datblygiad yn ei gryn- swth. Gallai hynny fod yn newydd, tra nad oes fawr o faeth bellach yn J.E.P.D., nac yn yr hanes fel hanes. Synnais weled y llyfrau y gallasai dawn