Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cred rhai mewn parhad amodol,' dal i fyw i'r graddau y meithrinir gwerth personoliaeth yn y bywyd yma. Fe dderfydd dyn sal ei ddefnydd, bydol ei feddwl, priddlyd ei ysbryd, fel y derfydd anifail" (td. 173). Cnawd gyferbyn ag Ysbryd, BASAR diflanedig, dirywiol ar gyfer RUACH digyfnewid, dihalog a gogoneddus yw syniad canolog yr Hen Desta. ment. Dyn a'i fyd, ei rwysg a'i firi, ac yna distawrwydd y bedd ar derfyn y pasiant, yw BASAR, Cnawd. Yr Arglwydd o dragwyddoldeb i dragwyddol- deb, ei Fydded distwr a'i gyngor dilestair, ei sancteiddrwydd digwmwl a'i drugaredd oesol yw RUACH, Ysbryd (185). Y mae fflam y gwir bregethwr yn ogystal â'r llenor ar ddarnau fel hyn drwy'r llyfr. Ac ni wn am neb yn ein dyddiau ni a'u rhoes inni'n well na Mr. W. D. Davies. Diau mai ar fympwy'r funud y dywedodd bod y trilog yma (sef y llyfr hwn a'i ddau gymar) yn cau ei fwdwl diwinyddol. Nid yw'r gwaith ond megis yn dechrau. Caernarfon. STEPHEN O. TUDOR. LLYFR YR ACTAU. i.-xii. Gyda Nodiadau. Gan y Parch. David L. Rees, B.A., B.D., Manchester. Cyhoeddedig gan y Gymanfa Gyffredinol. 1935. 183 td. 2/6. Edrych braidd yn rhyfedd a wna'r geiriau "Cyhoeddedig gan y Gymanfa Gyffredinol" ar wyneb-ddalen yr esboniad hwn; yn y Llawlyfr ar Efengyl Marc y llynedd fe chwanegid "Yn y Llyfrfa, Caernarfon." Tybed mai "dros y Gymanfa a ddylid ei ddywedyd? Efallai yr ystyrir y mater maes 0 law gan y rhai cyfrifol." Dyma esboniad cryno a byw iawn ar y Maes Llafur a efrydir yn ein Hysgolion Sul eleni. Nid dieithr-ddyn mo'r awdur: cyhoeddwyd gwerslyfr rhagorol o'i waith ar "Yr Eglwys Apostolaidd Llenyddiaeth ac Athrawiaeth yn y fl. 1922, ac ar Actau y seilid hanner y gwersi a geid yn hwnnw. Gwyr llawer yn Ne a Gogledd fod Mr. Rees yn efrydydd pybyr ar hyd y blynydd- oedd, a dyry'r Llawlyfr hwn, petai angen hynny, brofion chwanegol o hyn. Rhoddir rhyw 23 tud. i'r Rhagarweiniad, ac ymhlith yr adrannau mwyaf diddorol sydd yno ceir un ar "Neges y Llyfr," ac un arall ar "Brif Bynciau Actau i.­xii." Y mae'r ddwy hyn yn werth eu darllen drosodd a throsodd am y codir ynddynt gwestiynau sy'n gyrru dyn at wraidd yr hanes. Nid ydym yn siwr chwaith beth i'w ddywedyd am ran gyntaf gosodiad a ddywaid am Act. i.-xii. ddarfod eu hysgrifennu gan wr a ymhyfrydai mewn adrodd hanesion a thraddodiadau nad ydynt o fawr ddiddordeb i ni, ac fe'u handwyir fel hanes cyson gan aml i ddolen gydiol goll (td. 22). Ond da yw ein hat- goffa, am yr areithiau a geir yn y penodau hyn, na ellir bod yn sicr a ydynt gennym fel y'u traddodwyd yn eu cyfle hanes ai peidio" (td. 23). Nid pob un ohonom sy'n cofio bod agos i 30 ml. rhwng yr amser y digwyddodd y pethau a ddisgrifia Luc a'r adeg y sgrifennwyd yr hanes. Faint o'r rhai a gofia'r Diwygiad yn τgo4-5 a all adrodd yn fanwl gywir hyd yn oed yr hyn a welwyd ganddynt heb sôn am yr hyn ni welsant? Ac nid ymddengys bod Luc yn llygad-dyst o'r hyn a groniclir yn hanner cyntaf Llyfr yr Actau.