Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Methodistaidd y ffurf a wnaeth yn ein Cyfundeb ni, a pha newid a fu yn y Corff, a beth sy'n aros yr un drwy'r holl newid. Yna trinir perthynas y Corff ag Eglwys Lloegr, ag Ymneilltuaeth, â'r Wesleaid, ac â'r Presbyteriaid, a rhoddir pennod i gloi ar y Corff ei hun." Sgrifennodd Mr. Roberts yn rhagorol, yn gryno ac eglur a blasus ar y pynciau hyn. Da fyddai gofalu fod pobl ieuanc feddylgar Adran Saesneg y Cyfundeb yn cael y llyfr a'i ddarllen a thrafod ei gynnwys; a byddai'n gaffael- iad mawr hefyd i'r ieuenctid hynny sy'n byw mewn trefi Saesneg a mannau eraill hefyd lle bônt yn barotach i ddarllen Saesneg na Chymraeg. Y mae dau neu dri o fân wallau print ar td. 8 a 10, ond er craffu ni sylw- asom ar chwaneg o frychau na hynny; eto da fuasai rhoddi ambell comma ychwanegol yma a thraw. Anaml y daw o law gweinidog Eglwys Gymraeg lyfr Saesneg sy'n darllen cystal â hwn, heb arno ronyn o flas cyfieithu o gwbl. D.F.R. THE TWO SOURCES OF MORALITY AND RELIGION, by Henri Berg- son. Eng. trans. Macmillan. 1935. Y mae hwn yn llyfr mor bwysig, symbyliadol ac awgrymiadol fel y teimlais y dylwn ar unwaith alw sylw fy nghydwladwyr ato. Ni honnaf fy mod wedi astudio'r gyfrol yn fanwl, fel yr haedda. Ni allaf yma ond cofnodi'n fyr fy argraffiadau cyntaf, ar ôl ei darllen braidd yn frysiog. 1 Goddefer ychydig o eiriau personol i ddechrau. Ers agos i chwarter canrif bûm yn disgwyl am lyfr o'r fath oddi ar law Bergson, i gyflawni'r hyn oedd yn 61 yn ei weithiau blaenorol. Cefais y fraint o fod yn un o'r rhai cyntaf i alw sylw darllenwyr Cymraeg ato.* Teimlwn ar y pryd, fel y teimlai llu eraill, fod Bergson yn ei ddull treiddiol a gwreiddiol ei hun wedi dadlennu'n dra effeithiol ddiffygion Materoliaeth a'r ddamcaniaeth beiriannol am y cread a pharatoi'r ffordd i ddehongliad ysbrydol o'r cyfanfyd. Ond teimlwn hefyd nad aethai'n ddigon pell ar hyd y ffordd honno, nad aethai yn wir ym mhellach na half-way-house rhwng Naturiolaeth a'r Idealaeth a fuasai'n sylfaen addas i grefydd a moesoldeb. Y rheswm oedd nad esgynasai'n uwch na'r safbwynt bywydegol a meddylegol, ac ni ellid o'r safbwynt hwnnw'n unig roi ystyriaeth briodol i awdurdod gwerthoedd a safonau ysbrydol. Hyd yma ni ddywed- asai Bergson nemor ddim yn ei weithiau mawr am foeseg a chrefydd a Duw. Yn fy ysgrifau crybwylledig datgenais y gobaith y byddai i Bergson mewn gweithiau pellach symud ymlaen o'r safbwynt bywydegol a meddylegol, i dra- fod safonau a gwerthoedd yng ngoleuni'r profiad moesol a chrefyddol. Wedi chwarter canrif o aros, wele o'r diwedd gyflawni ein disgwyliad. Pa un bynnag a fyddom yn cytuno ag ef ai peidio, dengys Bergson yn glir ddigon ei fod mewn cydymdeimlad dwfn â Chrefydd, yn arbennig y teip o grefydd · Mewn tair ysgrif ddehongliadol a beirniadol yn Y Beirniad (Gol., Syr John Morris-Jones), 1912-13. Adargraffwyd yr ysgrifau yn fy llyfr Crefydd a Bywyd, 1915.