Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ofnadwyaeth a mawrhydi aruchel y Santaidd, y gosodwyd cymaint o bwys- lais arno gan Otto. Efallai mai cariad santaidd neu "Tad santeiddiol" (Ioan xvii. n), yn hytrach na "chariad" neu Dad" yn syml, yw'r disgrif- iad byr gorau o Dduw yn 61 y datguddiad Cristnogol. A'r ail bwynt yw hwn Fel y dywedodd y Dr. James Moffatt yn y Christian World, y mae'n syndod na chyfeiria Bergson o gwbl at yr ymwybyddiaeth o bechod; y mae hwn yn ddiffyg pwysig. Ond wedi'r cwbl mwynglawdd o aur coeth yw pennod iii. Ni allaf yma drafod pennod iv. (" Peiriannaeth a Chyfriniaeth "), sy'n ym. drin â rhai pynciau cymdeithasol pwysig yn unol ag egwyddorion athron- iaeth yr awdur. Prin y mae angen cyfeirio at fireinder ei arddull, a'i ddefnydd meistrolgar o eglurebau. Gwelir hyn yn holl weithiau'r athronydd athrylithgar hwn. Aberhonddu. D. MIALL Edwards. A CHRISTIAN MANIFESTO. By Edwin Lewis. 254 pp. Student Christian Movement. 6/ Athro mewn Diwinyddiaeth ac Athroniaeth Crefydd ym Mhrifysgol Drew, yn yr Unol Daleithiau, yw awdur y gyfrol hon. Cafodd brofiad chwyldroadol beth amser yn 61, a newidiodd hwn holl osgo ei feddwl at grefydd. Barnai llawer, hyd yn oed o'i gyfeillion, iddo newid er gwaeth a syrthio'n 61 ar syn- iadau na ddylai'r un dyn diwylliedig eu coleddu yn y dyddiau goleuedig hyn. Ond cred ef mai ail ddarganfod iddo'i hun a wnaeth hanfodion y ffydd Grist- nogol; ac ymgais lwyddiannus yw'r gyfrol hon i ddatgan ei ffydd a rhoddi rheswm am y gobaith sydd ynddo. Nid yw am wadu dilysrwydd na gwerth y wybodaeth amrywiol a enillodd yn ystod blynyddoedd o efrydu caled; ond deil nad yw ei efrydiau mewn beirniadaeth a hanes, mewn gwyddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth, wedi datguddio dim iddo sy'n anghyson â gwir- ioneddau mawr y ffydd. Gall dyn dderbyn pob gwybodaeth fodern a phar- hau'n Gristion. Rhagor na hynny, po gliriaf y byddo'i ddeall o bob gwybod- aeth arall, cliriaf oll y dylai ei argyhoeddiad fod o angen pawb am yr efengyl. Ceisia ddangos hyn yn ei lyfr. Dywedir weithiau nad oes gan y modernist efengyl glir a phendant. Nid gwir hyn am y modernist hwn, beth bynnag. Y mae ganddo efengyl, ac y mae nwyd efengylaidd yn ei yrru i'w chyhoeddi gyda grym. Ei gyd-weini- dogion, yn fwyaf arbennig, sydd ganddo mewn golwg wrth ysgrifennu, a geilw arnynt i gyhoeddi'r efengyl gyda mwy o bendantrwydd. Cred ef eu bod wedi talu gormod gwrogaeth i farn seciwlaraidd y byd, a'u bod wrth gyf- addawdu a'r farn hon yn bradychu'r efengyl. Nid adeg i blygu glin nac i ymddiheuro ydyw. Gofyn cyflwr enbyd y byd am i'r Eglwys ddatgan ei hargyhoeddiadau gyda hyder gwrol.