Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Ddau Canmlynedd Hyn* Y MAE'N debyg mai dymuniad y brodyr a drefnodd y mater hwn yn bwnc ymdriniaeth yn y cyfarfod yma oedd i'r siaradwyr fwrw brasolwg dros hanes y Cyfundeb heb fanylu ar ddim. I wneuthur hynny i bwrpas dylid cael dyn â greddf hanesydd ganddo, a dyn a roes fisoedd lawer, onid blynyddoedd rai, i ymgyfarwyddo â holl symudiadau'r Corff a deall eu harwyddocâd. Prin y gallaf feddwl ddarfod i'r mwyaf ehud o'n pwyllgorau, pa un bynnag yw hwnnw, erioed freuddwydio bod y reddf honno gennyf fi, ac yn sicr ni ddychmygais i fy hun y fath beth. Oherwydd y diffyg difrifol hwn y mae'n amhosibl i mi wneuthur y gwaith a ymddir- iedwyd imi ond yn dra amherffaith. A chofio mai camre Eglwys a ddilynir gennym nid yw'r cyf- nod yn hir-dau can mlynedd. Ond pe gallem weled i mewn i fanylion y blynyddoedd canfyddem fod y gwaith a gyflawnwyd yn fawr. Byddai gan y gwr a ymgymerai â mynegi swm y gwaith a wnaeth Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn ystod dau can mlynedd ei gyrfa gryn goflaid i'w chario. Nid ydwyf yma i geisio dangos ein bod ni wedi rhagori ar bobl eraill; ond dywedaf gyda phob gostyngeiddrwydd na wnaeth unrhyw gangen o Eglwys fawr y Testament Newydd fwy o waith yng Nghymru rhwng 1735 a 1935 nag a wnaeth y Methodistiaid Calfinaidd, ac na fu dylanwad unrhyw adran o'r Eglwys yn drymach ar fywyd y wlad na dylanwad yr Eglwys y perthynwn ni iddi. Nid wyf fi'n ddigon hyddysg yn hanes ein Heglwys i rannu'r hanes hwnnw'n gyfnodau pendant. Ond y mae un neu ddau o bethau mor amlwg fel na ddichon i'r prentis fethu â'u gweled. Meddylier am y blynyddoedd 1735 a 181 1. Anerchiad a draddodwyd yn y Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl, Mehefin 6, 1935-