Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beirniadaeth a Myfyrdod* BYDD ffarmwr, fel rheol, yn hel cribinion ei gynhaeaf nid yn unig ­weithiau, nid yn bennaf-ar gyfri gwerth yr hyn a gesglir, ond hefyd er mwyn taclusrwydd. Er gwybod ohono ambell waith y bydd y gost a'r drafferth o'u hel yn fwy na gwerth y cribinion, gwell ganddo er hynny y draul a'r drafferth na cholli ei enw da fel ffarmwr taclus ym marn ei gymdogion. Ni synnwn i ddim nad greddf ffarmwr ym meysydd llên sydd yn cyfrif am ymddangosiad y gyfrol "Beirniadaeth a Myfyrdod o waith yr Athro T. Gwynn Jones. Ar ôl iddo godi cnydau toreithiog ar ei feysydd, a'u cludo i ddiddosrwydd tair neu bedair o gyfrolau golygus, penderfynodd ddiogelu ei enw da fel ffarmwr taclus trwy hel y cribinion; oherwydd ysgrifau wedi ymddangos yma ac acw, ac o bryd i bryd, yw cynnwys y gyfrol hon. Nid yw eu galw yn gribinion, fodd bynnag, yn golygu nad oeddynt yn werth eu hel: i'r gwrthwyneb golyga eu bod o ran tras, er nad o ran trefn, yn perthyn yn agos i'r ysgubau brigog a rwymwyd ar yr un meysydd. Y mae cynnwys y gyfrol yn am- rywiol: ceir ynddi ddwy neu dair o ysgrifau sydd yn draethodau go helaeth, a nifer o rai eraill sydd yn siomi'r darllenydd gan mor fyrion ydynt, -prawf fod yr ansawdd yn well na'r mesur. Mae amryw, fel yr awgrymir yn y rhagair, yn dameidiau o feirniadaethau eisteddfodol; a rhaid yw dweud bod popeth sydd ynddi yn llawn deilyngu cartref gwell a mwy sefydlog na chol- ofnau byrhoedlog papur newydd a chylchgrawn. Gwelir oddi wrth yr amlen rydd sydd am y gyfrol ei bod yn un o hanner dwsin o gyfrolau unffurf o waith T. Gwynn Jones, a gyhoeddir,chwe cholomen unlliw yn cael eu gollwng allan yn gyflym y naill ar ôl y llall o arch llên. Gobeithio y ceir arwydd- ion yn y croeso a roddir iddynt bod dyfroedd difaterwch llen- yddol yn treio yng Nghymru. Mae anturiaeth fel hon ar ran *BEIRNIADAETH A MYFYRDOD,—sef Ysgrifau, darnau o feirniadaethau a dar- lìtHoedd ar bynciau o ddiddordeb cyffredinol, gan T. Gwynn /ones. Wrecsam Hughes a'i Fab. 5/