Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhagolygon Athrawon BUWYD yn trafod yn un o'n Pwyllgorau Addysg y dydd o'r blaen y priodoldeb o baratoi mwy o ysgolheigion yr Ysgolion Sir ar gyfer y Gwasanaeth Gwladol (Cwil Seruice). Y mae'n debyg mai'r hyn a symbylodd y drafodaeth ydoedd y rhagolygon tywyll a wyneba ddegau o fyfyrwyr ein Colegau. Ers rhai blynyddoedd bellach y mae rhif cynyddol o athrawon sydd wedi gorffen eu cwrs addysg, naill ai yn methu cael lle neu ynteu'n' gorfod gweithio am gyflog athrawon di-drwydded. Gobeithiwyd yn hir mai dros dro yn unig y parhâi hyn, ond erbyn heddiw fe'n gorfodir i syl- weddoli bod y farchnad wedi ei gor-lenwi. Gwaeth na hynny, yn fy marn i, y mae bron wedi ei chau i athrawon a fegir mewn rhanbarthau gwledig, yng Nghymru a Lloegr; ac yn yr ysgrif hon fe geisiaf roddi fy rhesymau dros gredu hynny. I bob pwrpas, rhanbarth gwledig ydyw Cymru gyfan, ac os felly, y mae'n ber- ffaith eglur fod ein Cyfundrefn Addysg yn wynebu'r argyfwng mwyaf difrifol a fu yn ei hanes, ac nid ydyw'n rhyfedd fod ei char- edigion yn dechrau anesmwytho ynghylch y dyfodol. I Ond os oes rhyw dda i ddeillio o wyntyllio problem y dyfodol, yr anhepgor cyntaf ydyw wynebu'r ffeithiau am y gorffennol yn deg. Gwaeth nag ofer fyddai ail-drafod hen ddadleuon ynghylch y Bwrdd Canol a phynciau cyffelyb. Gwell ydyw dechrau trwy gyfaddef yn syml fod ein holl gyfundrefn addysg wedi ei dat- blygu a'i pherffeithio i'r diben o gyflenwi'r galw a fu am athrawon i ysgolion elfennol trefi mawr Lloegr. Ni pherthyn i mi yn y nod- iadau hyn geisio penderfynu pa un ai drwg ai da a fu hyn, nac ychwaith chwilio ai hyn a fwriadai ein harweinwyr ar y cychwyn. Er gwell neu er gwaeth, o fodd neu o anfodd, canlyniad diym- wad chwanegu at rif ein hysgolion sir ac ehangu ein colegau fu allforio degau lawer o bob cenhedlaeth o'r gwaed ifanc gorau i ysgolion trefi Lloegr. Bu'r galw o Loegr yn alw cynyddol o tua 1880 hyd ryw dair blynedd yn ôl. Dechreuodd gyda sefydlu'r Byrddau Ysgol. Ar y cyntaf nid oedd ond galw gwan, a hynny am nad amcenid cael