Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Colegau yn 1933 a 1934 naill ai heb le neu ynteu'n gweithio fel athrawon di-drwydded. Eleni, ofnaf y bydd llawer mwy yn yr un brofedigaeth. Yn wyneb hyn cymerwyd cam pwysig gan y Bwrdd Addysg. Cwtogwyd rhif myfyrwyr adran hyfforddi y Colegau, ac yn y dyfodol ni chaniateir i fwy na rhif penodol sefyll y Certificate Examination. Bydd yn bosibl felly i efrydwyr ddod o'r Colegau gyda Diploma neu Radd ond heb Dystysgrif y Bwrdd Addysg, a heb honno ni fedrant gael lIe ond yn unig mewn Ysgolion Canolradd (Secondary Schools) neu ynteu fel athrawon di-drwydded yn yr ysgolion elfennol, gan gynnwys y Central Schools. Mwy na hynny, ac fe ddaw pwërau cryfion i ymladd ymhlaid hyn, ni fyddai'n syndod pe ceisid sicrhau cyfateb rhwng rhif myfyrwyr y gwahanol adrannau hyfforddi a gofynion y cylch- oedd y lleolir y Colegau ynddynt. Afraid dywedyd yr effeithiai hyn yn drwm ar Golegau Cymru. Yn yr argyfwng hwn naturiol ydyw i ysgolfeistri feddwl am gyfleusterau eraill i'w disgyblion, a rhed eu meddwl at y Gwas- anaeth Gwladol. Y cyfan a ddywedaf ar y pwynt hwn ydyw hyn -y mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng y rhagolygon yn y Gwasan- aeth Gwladol a'r rhagolygon a fu yn yr ysgolion. Cawsom ein cyfle yn yr ysgolion, fel y sylwyd, am nad oedd cystadleuaeth. Ni bu unman erioed a mwy o gystadlu am ei wobrau na'r Gwasan- aeth Gwladol. Dichon bod ynddo ddrws agored i ryw ychydig o'r talentau disgleiriaf, ond nid oes unrhyw obaith y gellir ei droi'n farchnad a dderbyn ran fawr o gynnyrch ein hysgolion. Onid yr hyn a ddylem ei sylweddoli ydyw hyn er gwell neu er gwaeth daeth athrawiaeth newydd yn ffasiynol drwy'r byd. Cais y gwledydd fod yn hunan-gynhaliol. Nid wyf yn aelod o'r Blaid Genedlaethol, ac nid amcanaf wneuthur unrhyw bropaganda drosti, ond onid y gwir ydyw y bydd yn rhaid i ni yng Nghymru'r dyfodol fodloni i aros gartref? Nid yn unig y mae'r farchnad i athrawon yn prysur gau, ond ymddengys i mi fod pob marchnad yn cau. Os felly, y mae'r adeg wedi dod i'n harweinwyr ad- drefnu ein Cyfundrefn Addysg, a'i chyfaddasu, nid at ddibenion cyflenwi athrawon i drefi Lloegr, ond at wasanaeth cenedl o bobl sydd yn bwriadu mwynhau eu bywyd, a gwasnaethu ei gilydd, yr ochr Gymreig i Glawdd Offa. RHYDDALLT.