Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ystyr a gwerth pethau dirgel ein profiad dynol, delio â'r dir- gelwch fel problem a wahodda ystyriaeth ein rheswm i'w deall, ac ymdrech ein hysbryd i symud o'r neilltu unrhyw elfennau o ddrwg a berthyn iddi. Ni ddylem anwybyddu caledi bywyd y tlodion ar y tir mai fel yna y trefnodd Duw i bethau fod, ac y gall angen y corff droi'n fagwrfa ragorol i ddoniau a grasusau ysbrydol. Ar ffydd grefyddol rwydd a chysurus o'r fath y ffyn- nodd caethwasiaeth am ganrifoedd hir; a hon yw conglfaen cref- ydd llu o feistriaid o hyd yn eu hagwedd ymarferol at eu gweis- ion. Gall y syniad o ddwyfol drefniad a rhagluniaeth ddoeth gynhyrchu syniadau ac agweddau nad ynt na dwyfol na doeth. Dyletswydd pob perchen ffydd iach yw defnyddio ei reswm dynol hyd eithaf ei allu, i dreiddio i wir ystyr bwriadau Duw yn ei fywyd personol a bywyd cymdeithas; onid e, gall ei ffydd fod yn ymdaith yn rhengau'r diafol heb yn wybod i'r dyn ei hun. Nid cywir awgrymu am foment na chais ysgrifenwyr y Beibl ymgodymu â phroblemau bywyd, er na cheir y gair Groeg problem ar eu gwefusau. Y mae llawer iawn mwy o athron- iaeth yn y gyfrol sanctaidd nag a ganiateir gan sylwadau areith- yddol a chyferbyniadau penagored, megis mai Groeg oedd car- tref athroniaeth a Chanaan yn gartref crefydd. Rhaid i grefydd wir gynnig athroniaeth o fywyd i ddynion, neu ddirywio'n ofer- goeledd a defod wâg. Ceir yn y Beibl, yn enwedig yn nysgeid- iaeth Iesu Grist, athroniaeth wir, sef yw hynny, goleuni ar ystyr a gwerthoedd bywyd, addysg ar "y ffordd i farw a'r ffordd i fyw." Ni cheir yno dermau tywyll na dadleuon cymylog yr "ysgolion" athronyddol a gyfrifir yn "glasurol": i newydd- ian yn unig y mae consurio â thermau yn gyfystyr â dysgu gwir- ionedd. Athroniaeth bywyd sydd yn y Proffwydi a'r Salmau, yn Llyfr Job a'r Pregethwr (neu ag arfer enw mwy cywir ar yr olaf, Llyfr yr Athro); ac wynebu problemau bywyd bob dydd a wna'r Efengylau a'r Epistolau. O'r problemau hynny y fwyaf yw problem poen. A hi y mae'r groes yn gysylltiedig drwy oesau hanes; ceisio canfod un- rhyw iawn ynglyn â hi yw tasg yr Hen Destament a'r New- ydd. A ddichon dim da ddyfod o boen? Pa iawn neu werth a berthyn i ddioddef? Pa le synhwyrol a all fod i gystudd yn "y byd gorau yn bosibl."