Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Evan Richardson, Caernarfon I Rhywbryd yn y flwyddyn 1787 safai Evan Richardson ar riw Penybryn ger tref Caernarfon rhwng y ddeuddyn a'i cyrchasai o Frynengan, ac edrychai yn o syn ar faes ei lafur. Dacw fag- wyrydd a thyrrau'r Castell, ceyrydd y dref gynt a chlwstwr o dai ar y tir bryniog o'r tu allan i'r muriau. Gwyddai fod y bobl a drigai gerllaw olion yr hen wareiddiad Rhufeinig, os yr un, yn llai eu bonedd na'r Rhufeiniaid gynt, a bod trwch eu rhagfarn yn erbyn diwygiwr yn fwy nag eiddo'r muriau cedyrn a godwyd gan y Brenin Edward. Nid oedd y pethau a glywsai na gogon- eddus na hyfryd. Dyma ddygyfor ynddo feddyliau o dosturi ac ofn, a daeth dagrau i'w lygaid. Onid oedd yr Ymneilltuwyr pybyr wedi gwneud rhuthr ar ôl rhuthr ar annuwioldeb y dref am dros gan mlynedd, a hynny heb lawer o lewyrch na llwyddiant? Onid oedd John Williams ac Ellis Rowland, tua 1672, wedi cofrestru tv i bregethu ynddo, ond y naill a'r llall wedi gorfod cilio heb fylchio ohonynt furiau'r gelyn ? A beth am hanes Daniel Phillips o Bwllheli ymhen rhyw ddeunaw mlynedd (1689) yn ei chynnig drachefn ac yn cael dognau cymorth gan y Bwrdd Presbyteraidd i'w galonogi druan, ond heb weled fawr lwyddiant ar ei lafur? Gwr dyfal iawn oedd William ab Edward gyda'i ysgol a'i bregethu o 1726 ymlaen, a chafodd y llonyddwch a haeddai am ryw ddeng mlynedd, ond pan ddaeth cyffro'r Diwygiad i roddi ynni newydd yn yr Anghydffurfwyr daeth saethau'r mellt a rhu'r taranau. Yn 1741 daeth i'r dref Richard Tibbott a Jenkin Morgan- oblegid yn ei ddyddlyfr am y flwyddyn honno fe ddywaid Tib- bott: "Ni byon ond yngilch tair withnos cin yn dal an danfon fel magabonds adre Jenking a mine ni gowsom yn danfon o'r naill Hows of Corexion ir llall yn gynta i Gaernarfon & 2 Dolgelle &c." (Cylch Cymd. Hanes y M.C., Cyf. iv., td. 13). Nid cywir