Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hitler a'r Ifanc I. MUDIAD Y SCOWTIAID YN GERMANI I unrhyw berson sydd yn gydnabyddus â Germani, nid yw'n bosibl meddwl am wlad lIe y gellid disgwyl gyda chymaint sicr- wydd y cawsai mudiad i blant fel mudiad y Boy Scouts dderbyn- iad cynhesach a mabwysiad mwy cyffredinol na chanddi hi, canys hysbys i bawb ydyw diddordeb yr Ellmynwyr ymhob cynllun a amcana sicrhau gwell addysg i blant eu hysgolion, a datblygiad cyflawnach iddynt wedi iddynt ddechrau ar waith eu bywyd. Yn wir, gellid, fe debygid, broffwydo y cawsai Mudiad y Boy Scottts, sydd â'i ganolbwnc mewn gwaith yn yr awyr agored, dder- byniad parotach yn Germani nag mewn unrhyw wlad wareidd- iedig arall. Ceir ynddi hi, ers llawer blwyddyn, ddarpariadau helaeth ar gyfer pobl hoff o gerddcd, ac ar gyfer pawb a gâr dreulio eu gwyliau yn yr awyr agored, fel y gwyr pob ymwelydd â'r Rhein, Mynyddoedd yr Harz, a Fforestydd Thuringia; yn wir, dyma agwedd ar fywyd a dynn sylw pob ymdeithydd yn y wlad honno, sydd lawned o olygfeydd arddunol. Er hynny. ni allai unrhyw sylwedydd lai nag ofni bod yr awydd am fod yn y ffasiwn, ac am anfon cwmnÏau o fechgyn neu o ferched ar deith- iau hir, wedi mynnu ei fynegi ei hun weithiau yn y blynyddoedd diwethaf yma cyn gwneuthur trefniadau pwrpasol digon lluosog ar eu cyfer. Ond lleiheid achosion beirniadaeth yn gyflym. O gofio bod yn 1928 gynifer â 970 o gymdeithasau lleol wedi eu ffurfio er mwyn hyrwyddo teithiau cerdded o'r fath (parhânt weithiau am dair wythnos neu fis), a bod 116,000 o aelodau yn perthyn i'r cyfryw gymdeithasau, fe welir y pwysigrwydd a osodir gan yr Ellmynwyr ar fod eu plant yn cael cyfleusterau i weld darnau helaeth o'u mam-wlad, ac, os yn hosibl, yn anad dim i gerdded drwy rai o goedwigoedd hardd glannatt'r Rhein. a syllu brydiau eraill ar y Drachenfels, y Lorelei, a'r hen gastelli enwog, oddi ar fwrdd un o longau cymfforddus yr afon honno. Llwyddodd y cymdeithasau hyn, gyda help awdurdodau cyhoeddus eraill, i baratoi 2,200 o adeiladau cyfleus (Jugcnd-hcrbcrgcn), lle y der-