Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD HM Y FLWYDDYN 1935. Golygyddion: Y Parch. Brifathro DAVID PHILLIPS, M.A., a'r Parch. D. FRANCIS ROBERTS, B.A., B.D. DYMUNA'r Golygwyr gydnabod gyda diolch cyn- nes y gefnogaeth a gafodd Y TRAETHOD- YDD yn ystod y flwyddyn 1934 amlygwyd gwerthfawrogiad o'i gynnwys gan lu o gyfeillion. Gobeithiwn y caiff yr un gefnogaeth y flwyddyn nesaf; gwneir pob ymdrech i arlwyo'r ford yn deilwng a derbyniol. Mentrodd Pwyllgor Gweithiol y Llyfrfa dorri tir newydd drwy anfon Y TRAETHOD- YDD yn rhad drwy'r post am 5/- y flwyddyn i danysgrifwyr. Bu'r arbrawf mor llwyddiannus fel y penderfynwyd ei gynnig ar yr un telerau yn y dyfodol. Ymhellach, tybir y bydd eraill yn awyddus i'w gael ac er mwyn eu cyrraedd hwynt anturir gwcrthu rhifynnau unigol yn y flwyddyn 1935 am 1/3 yr un (yn 13e 1/6'. Cwbl hyderwn hefyd y bydd i ddarllen- wyr presennol y cylchgrawn ei ddwyn i sylw pwy bynnag arall sydd yn debyg o'i werthfawrogi. Ar werth gan Lyfrwerthwyr a Dosbarthwyr, ac yn LlyfrfaY Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon. Printed and made in Wales, Great Britain.