Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hitler anerchiad angladdol uwch ei fedd, a dywedodd frawddeg baganaidd am yr hen wron, yn awr y mae wedi cael derbyniad i Valhalla" A digwyddai bod Hindenberg yn Gristion selog ac yn aelod o Eglwys Crist! Modd bynnag, y Sul y cyfeirir ato penderfynodd miloedd o eglwysi nad oedd wedi plygu eu gliniau i Baal wneuthur eu protest. Ac wedi arddel arweiniad Crist yn unig, a chymryd llw o deyrngarwch i'w Deyrnas Ef, ac addo ffyddlondeb diderfyn i'w gwlad heb blygu gliniau i neb arall ond ein Harglwydd ni a'i Grist Ef, safodd yr holl gynulleidfaoedd ar eu traed, a chanasant gyda'i gilydd emyn anfarwol Luther- gyda'r fath deimlad, meddir, nas dangoswyd erioed o'r blaen yn hanes y byd: "Ein nerth a'n cadarn dwr yw Duw, Ein tarian a'n harfogaeth; O ing a thrallod o bob rhyw Rhydd gyflawn waredigaeth. Ni ellir dim o allu dyn, Mewn siomiant blin mae'n diffodd; Ond trosom ni mae'r addas Un, A Duw ei Hun a'i trefnodd." Aberystwyih. T. A. Levi.