Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iad Awdurdodedig, yn I Corinthiaid. Gwelir felly fod y gair Groeg (eukaireô) yn agored bron i'r un ystwythder wrth ei gyf- ieithu â'r gair hamdden yn Gymraeg. Defnyddio amser mewn ffordd neilltuol, wrth ein hewyllys, ac yn ôl ein dymuniad (go-as- you-please) ydyw hamdden ym meddwl y cyffredin yn ein gwlad. Gelwir ambell wr yn ddyn hamddenol. Wrth hynny golygir ei fod yn wr sy'n meddu llywodraeth dda ar egnïon ei fywyd, a'i fod yn arfer ei amser mewn pwyll, yn unol â'i ddymuniad dan amrywiol amgylchiadau a fydd yn rhoddi cryn braw ar ei natur. Cwbl wahanol ydyw i'r dyn a yrrir megis ar flaen corwynt gan droeon yr yrfa. Darnodiad rhyfeddol gywir ydyw eiddo'r Ys- grythur o'r gwr hamddenol: "Ni frysia'r hwn a gredo." Nid hwyrach na ellir dweud bod pob un o'r darnodiadau a grybwyll- wyd yn eithaf teg i'w defnyddio am y gair hamdden, yn ól fel y defnyddir y gair ar lafar gwlad yng Nghymru heddiw. Cymerwn hamdden felly yn gyfystyr ag amser cyfaddas," adloniant, seib- iant. Adeg ar fywyd ydyw y gall dyn ei ddefnyddio yn ôl ei ewyllys ei hun, ac nid yn ôl fel y trefnir gan unrhyw awdurdod arall. LLE HAMDDEN MEWN BYWYD. Un o broblemau pennaf ein dydd, y mae'n ddiamau, ydyw gwybod i sicrwydd, pa le, a pha werth, sydd i hamdden ym mywyd y person unigol, ac ym mywyd cymdeithas, a gwlad. Rhoddwyd lIe pwysig i hamdden yn nechrau hanes, yn ôl ein Hysgrythur. Gwelwn yr egwyddor yn amlwg yn y Saboth bore; ac yn nhrefn- iant yr Hen Oruchwyliaeth. Dangosir yn eglur fod dyn ac anifail yn gofyn am adeg o seibiant, adeg o adloniant a newid. Ym- ddengys yr hanesydd fel petai'n dwyn esiampl y Creawdwr Mawr ei Hun fel rheswm dros hyn. Gorffwysodd Yntau y seith- fed dydd. Yn wir, rhoddir ar ddeall fod y ddaear yn galw am rywbeth o'r un natur. Byddai amaethyddiaeth yn fwy llwydd- iannus yn y dyddiau prysur a thrafferthus hyn, pe cedwid yn fan- ylach at gyfarwyddyd yr Hen Oruchwyliaeth, trwy roddi mwy o hamdden i'r hen ddaear i adnewyddu ei nerth, a thrwy hynny roddi cynnyrch helaethach i'w llafurwyr. Trwy dorri ar yr egwyddor o Saboth bob saith niwrnod, gwelodd Ffrainc yn y man mai colled gyffredinol, ac nid ennill, oedd hynny.