Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bellach cyfrifir ef ymysg ysgrifenwyr a phroffwydi mawr y byd. Yn sicr rhaid fydd rhoi lle iddo ymysg yr ychydig dethol- edig sydd wedi cyrraedd y ffin sydd nhwng ddiwylliant y cyfnod hwn sydd yn dirwyn i ben a'r hwn sydd ar ddyfod. Drwy ei ferthyrdod ysbrydol dengys y perthyn i ni, ond yn rhinwedd ei weledigaeth helaeth, plentyn y dyfodol a'r oes newydd ydyw. Saif Dostoevsky ar drothwy'r byd newydd hwn gan wynebu byd galarus heddiw a dweud wrtho, A thithau, tyred a chymer feddiant o'r etifeddiaeth newydd yr esgoraist arni drwy dy boen a'th waedlyd chwys." Stockport. W. E. ROBERTS.