Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sbaen MYFYRDOD AR dŷ WEDI YMRANNU YN EI ERBYN EI HUN. I Am dri niwrnod ym mis Tachwedd bob blwyddyn cynhelir yng Ngregynog gynhadledd fechan o nodwedd neilltuol. Cynhal iwyd y gynhadledd gyntaf yno yn y flwyddyn 1922-blwyddyn geni Neges Plant Cymru-a chynhaliwyd hi'n ddidor byth oddi ar hynny. Un pwnc cyffredinol sydd bob amser i'r gynhadledd hon, sef yw hynny, Addysg a Heddwch Byd." Bydd rhyw agwedd i'r pwnc dan sylw ym mhob cynhadledd, a gwahoddir i Gregynog rai a fedr siarad arno gydag awdurdod. Bron bob Tach- wedd, trwy'r blynyddoedd, gwahoddir i gyfarfod â nifer o ath- rawon o Gymru nifer o athrawon o wahanol wledydd yn Ewrop ac weithiau o'r tu hwnt i Ewrop. Yn y flwyddyn :τ9г6-deng mlynedd yn ôl-fel enghraifft, gwa- hoddwyd M. Garnier, o Baris, un o brif arolygwyr yr ysgolion yn Ffrainc, yr Athro Pierre Bovet, o'r Yswistir, y Dr. Nitobe o Japan, a'r Athro adnabyddus 0 Sbaen, José Castillejo, o Brif- ysgol Madrid. Yn ddiweddarach daeth y Senor Madariaga atom i un gyn- hadledd, ac yntau, y pryd hwnnw, yn athro'r Sbaenaeg yn Rhyd- ychen. Nid oedd ef na neb arall yng Ngregynog yn Nhachwedd 1930 yn breuddwydio y gelwid ef mewn ychydig amser i helpu llunio cyfansoddiad newydd a democrataidd Sbaen, a'i anfon yn fuan fel llysgennad ei wlad, yn gyntaf i Washington, wedi hynny i Baris, ac wedi hynny i Genefa fel prif gynrychiolydd Sbaen yn holl gyfarfodydd Cynghrair y Cenhedloedd. Erbyn heddiw bu amryw o'r dynion blaenaf ym mudiadau di- wylliant ar y Cytfandir yn cymryd rhan yn y cynadleddau hyn yng Nghymru, ond teg yw dweud na chreodd unrhyw un o'r gwahoddedigion o wledydd eraill fwy o argraff na'r ddau o Sbaen