Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Senor Madariaga a'r Athro Castillejo, un yn llenor, a'r llall yn ysgolhaig. Siaradai'r ddau, bob un yn ei ffordd ef ei hun, am y Sbaen a fu unwaith yn allu imperialaidd, a'i phlant yn Neheudir America, am y Sbaen artistig, Sbaen Velasquez a Goya, ac am Sbaen oedd wedi cyfrannu cymaint i'r byd yn llenyddol ac yn feddyliol. Ond gwelid eu llygaid yn tanio pan sonient am y Sbaen oedd i ddyfod, y Sbaen oedd i gyfrannu'n helaeth, yn ysbrydol ac yn wleidyddol, at wella'r byd. Ychydig argoel o hynny a welid yn y flwyddyn 1926. Yn wir hyd ddechrau 1931, nid oedd fawr argoel i neb y tu allan i Sbaen fod y wawr ar dorri. Yr oedd Alfonzo XIII. o hyd ar ei orsedd, ac wedi bod ar ei orsedd oddi ar ei eni. O Fedi 1923 hyd Ionawr 1930 bu Sbaen fyw dan deyrnwialen Primo de Rivera, gŵr bon- heddig hollol Sbaenaidd a geisiai yn ei ffordd ddigrif ei hun efelychu Mussolini heb allu anferthol y gŵr hwnnw. Yn ddios fe gyflawnodd Primo de Rivera ryfeddodau. Fel yn yr Eidal bu newid mawr ar y rheilffyrdd, ac mewn llawer man cyflawnwyd y wyrth o gael y trên i gychwyn a chyrraedd yn ei bryd; crewyd heolydd newydd a rhai priffyrdd ardderchog: dechreuodd am- aethyddiaeth am ennyd fywhau mewn rhai rhanbarthau. Ceis- wyd gwella amodau llafur, ond llethwyd, fel y llethir gan bob unbennaeth, ryddid barn a llafar. Yr oedd yn Sbaen nifer luosog o newyddiaduron annibynnol fel y Faner, a'r Brython a'r Herald Cymraeg yng Nghymru; a dywedent eu barn yn groyw ar bync- iau'r dydd, ond diddymwyd hwy, un ar ôl y llall, mor bell ag oedd yn bosibl. Ceiswyd hefyd osod terfyn ar unrhyw fudiad i wella addysg nad oedd mewn cysylltiad agos ag Eglwys Rufain. Y Pabyddion oedd i ofalu bod pob llyfr yn yr ysgol ddyddiol yn llyfr y gallent ei gymeradwyo. Alltudwyd rhai 0 brif lenorion Sbaen heddiw, gwýr fel Miguel de Unanmuno ac Ortega y Gasset. Yn y cyfamser, suddodd Sbaen fwy fwy i ddyled. Methwyd â chadw'r peseta rhag lleihau mewn gwerth; swllt Sbaen yw hwnnw, ar ei orau cyfatebai i ddeg ceiniog o'n harian ni. Yn y wlad, ni thelid mwy i'r gweithiwr ar y tir na dau peseta (swllt ac wyth) am ei lafur o godiad haul hyd ei fachlud, ac fel arfer