Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ewrop. Ni all Sbaen atgyfodi mwyach nes y bydd Ewrop ei hun yn y sefyllfa y mae Sbaen ynddi heddiw, ac yn enwedig yr Almaen a'r Eidal. Cyfnod du fel y fagddu sydd o'n blaen." IV A minnau'n myfyrio ar hunan-laddiad Sbaen, ac ar ing ei phobl, daeth i'm cof frysneges a ddanfonwyd unwaith gan y Senedd yn Sbaen at Blant Cymru. Gan nad oes gan Gymru Sen- edd ei hun eto, anfonwyd y frysneges o Fadrid i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, Llundain. Dyma hi yn Sbaeneg, fel y daeth i law, a chyfieithiad ohoni i'r Gymraeg Imperial and International Communications, Limited, 18 May, 1932. Dsdk Madridcongreso, 77 (words), 18 (date handed in) 18-30 (time). Speaker of the House of Commons, Londres: Las Cortes Constituyentes en Sesion celebrada en el dia de hoy han acordado dirigiros este telegrama rogando transmitais a los ninos del pais de Gales la cordial felicitacion que los ninos y el Parlamento Espanol les envian por el saludo y buenos deseos que manifiestan al dirigirse a los camardas de todo el mundo pidiendoles que defiendan con enthusiasmo la paz de los pueblos. Besteiro Presidente de las Cortes Constituyentes. Madrid, 18 Mai 1932. 6.30 p.m. Penderfynodd Senedd Sbaen yn ei heisteddiad heddiw ddanfon i chwi'r telegram hwn i ofyn a fyddwch mor garedig â thros- glwyddo i Blant Gwlad Cymru y llongyfarchiadau calonnog a ddenfyn plant a Senedd Sbaen iddynt am eu hynawsedd a'u hew- yllys da yn danfon at blant yr holl fyd i erfyn arnynt bleidio â'u holl egni heddwch rhwng y cenhedloedd. Sbaen ar ei huchelfannau oedd Sbaen Mai 18, 1932! Caerdydd. GWILYM DAVIES.