Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau WHERE THE SHOE PINCHES." By Morgan Watcyn-Williams. S.C.M. Prif neges y llyfr hwn ydyw trafod rhai o'r pethau ym meddwl a bywyd yr oes, a geidw ddynion draw oddi wrth Iesu Grist,-megis gau syniadau a rhagfarnau am ystyr crefydd, a pherthynas gwyddoniaeth, a meddyleg â hi; hefyd telerau anghyfiawn bywyd tymhorol heddiw,-rhai cwbl groes i hawliau dyn a goleuni Crist. Dyma rai o'r pethau, medd yr awdur, sydd fel cadwynau yn dal eneidiau'n ôl. Ymgais yw'r llyfr i ddangos sut i dorri'r cadwynau a rhoi dynion ar lwybr y bywyd gwir a llawn yn Iesu Grist. Medd yr awdur gymwysterau neilltuol i wneud y gwaith hwn. (a) Meistr- olodd lenyddiaeth ei bwnc yn dda, ac y mae ganddo farn o'i eiddo ei hun. Nid yw'n ofni beirniadu rhai o feddylwyr craffaf, a manylaf yr oes, megis Bertrand Russell, Watson, Freud, &c. Barnaf ei fod weithiau yn troi syniad- au'r rhain o'r neilltu heb eu llawn ystyried. Ei duedd yw ceisio rhoi rhyw un ergyd farwol iddynt, os cyfrifir bod eu syniadau yn mynd yn groes i Iesu Grist. O'r ochr arall nid ofna feirniadu'r Eglwys, a'i chyhuddo hithau o beidio â benthyca'r gwir a'r da sydd ym meddwl y byd. Ond beth bynnag a fo'r pwnc o dan sylw y mae'r awdur yn ysgrifennu'n glir, yn fywiog, ac yn argyhoeddiadol. (b) Daeth yr awdur i gyffyrddiad â'r pynciau y mae yn eu trafod, nid yn unig mewn llyfrau, ond hefyd ym mywyd y dynion y mae'n gweithio yn eu mysg. Ceir ganddo nid ffrwyth meddwl mewn gwaed oer, ond ffrwyth llafur diflino ymysg pobl, cyfathrach hir ac agos, a chydymdeimlad â dynion sy'n brofiadol o'r pethau a'u gwahana oddi wrth Grist. Credaf mai'r pennaf peth a'i symbylodd i ysgrifennu ydoedd helpu'r dynion hyn. Llyfr ar gyfer Pobun, Everyman ydyw hwn, nid yw'r awdur yn manylu pwy yn hollol sydd ganddo mewn golwg. Y gwr sydd ganddo o flaen ei feddwl, debygid, yw'r gwerinwr deallus, gonest, a'r dyn sy'n teimlo ei anawsterau, yn enwedig y rhai deallol, sy'n cuddio Crist oddi wrtho. Nid yw hwn yn cyfrif bod gair llythrennol y Beibl yn ddeddf derfynol ar bopeth. Nid yw ychwaith yn credu bod y gair olaf ar bopeth gan wyddoniaeth, ac ni wyr am gymdeithas fywiol ag Iesu Grist. Eto'r pennaf un yng ngolwg Pobun' yw Iesu Grist, a chred fod ganddo Ef air i'w feddwl, a gwaith iddo i'w gyfiawni. Pererin yw 'Pobun' ar ei daith, ond y mae'n anodd iddo gerdded oblegid nad yw ei esgidiau yn ei ffitio: gwasgu y maent. Nid yw'r syniadau sydd ganddo, na'r rhai a roddir iddo gan Eglwys a phapur newydd, &c., yn gynorthwyon gwir- ioneddol iddo ar ei daith. Ceir ymgais yn y llyfr i roi'r syniadau iawn iddo -gwisgo am draed Pobun' esgidiau paratoad efengyl tangnefedd.