Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymwneir â phedwar peth mawr sy'n blino 'Pobun.' (a) Awdurdod, (b) Gwyddoniaeth a Chrsfydd, (c) Meddyleg a Chrefydd, (d) Cyfiwr Cymdeithas a thelerau bywyd ynddi heddiw. Anhawster Pobun yw gwybod pwy a beth i'w gredu. Ceir dwy bennod ar hyn, "Gwybodaeth ac Awdurdod," "Agwedd Iesu Grist at Wybodaeth" (penodau iii. a iv.). Cyfarwyddyd yr awdur ydyw cofio mai'r gwr cyfarwydd â'i faes yw'r awdurdod bob tro. Y mae'n rhaid i bobun dderbyn ei farn a'i gyfarwyddyd gan yr expert ymhob maes. Y mae'n rhaid inni ddysgu gwahaniaethu rhwng yr exỳertì a dewis cyfarwyddyd pob un ohonynt yn ei briod faes yn unig'" (td. 27). Y mae'r crefyddwr yn bur ddarostyngedig i'r rheol hon ynglyn â materion hanesyddol, gwyddonol, &c., ynglyn â'r Beibl a Christ. Ond i'r Cristion rhaid yw rhoddi cam pellach na hynny,-derbyn llawer, a derbyn o hyd trwy draddodiad ond mynd hefyd i chwilio drosto ei hun. Dyma'r wybodaeth uniongyrchol a mewnol-nid allanol, sydd yn agored iddo ef. Nid gwybod am Grist ond ei adnabod Ef. Y ffordd at y wybodaeth hon yw ufudd-dod i'r goleuni sydd ganddo, gwybod y gwirion- edd trwy wneuthur yr Ewyllys. Bywyd,­nid syllu noeth mohono, a phob amheuon wedi cilio a phob cwestiwn wedi ei ateb. Yn hytrach pwnc o ym- ddiried yn y golau a welwn ydyw, a thrwy ei gyfrwng ymaflyd yn y gwaith sydd o'n blaen (td. 38). Rhoddir tair pennod (iv., v., vi.) i drafod perthynas crefydd â gwyddon- iaeth naturiol a meddyleg. Yr awgrym mawr a orwedd danynt ydyw mai syniadau niwlog Pobun a gyfrif yn bennaf am ei helbulon. Diflannent hwy pe cai syniadau clir, a gweled, er enghraifft, mai cynorthwyon nid gelynion i'w gilydd ydyw gwyddoniaeth a chrefydd: os caeodd gwyddoniaeth, unwaith, ryddid a chrefydd allan o'r byd, ni wna hynny mwyach. Daeth tro ar fyd 0 fewn gwyddoniaeth ei hun fel y gwelir mewn Bywydeg a'r Anianeg New- ydd. Rhagor, gwir o fewn terfynau gosodedig yw gosodiadau'r gwyddonydd. Y mae yna le yn y byd i brofiad cyffredin.' Profiad yw hwnnw sy'n agored i gael ei ddysgu, i'w adnabod ei hun, ac adnabod ei fyd, yn well o hyd. Onid dyma addysg Iesu Grist i'r disgyblion ynglyn â Duw? "Bod yw Duw y gellir dysgu am ei ffyrdd (td. 52). Cyfeirir at ddwy ysgol o Feddylegwyr-Ysgol Ymddygiadaeth, a'r Fedd- yleg Newydd. Tueddu i ladd Duw fel profiad mewnol a wna'r gyntaf. Mater o ymddygiad allanol ydyw popeth. Rhydd yr ail le i Dduw yn y profiad, ond nad yw'n Fod sylweddol y tu allan i'r profiad. Sylwedd gosod yn unig sydd iddo-llai sylweddol na sylwedd delwau cerfiedig. Carwn ofyn un cwestiwn, Tybed nad anghofiodd yr awdur Bobun' wrth drafod y pynciau dyrys hyn? Mewn llyfrau yn hytrach nag mewn cyfathrach â dynion y deuir ar eu traws. Onid ydym, weithiau mewn perygl o ddychmygu bod ein han- awsterau ni yn anawsterau i bobl gyffredin? Synnais braidd mai un bennod (vii.) a roddir i Economeg a Gwleidydd- iaeth. Tybiaf mai o'r cyfeiriadau yna, yn fwy nag o feysydd y deall pur, y cyfyd anawsterau'r bobl. Eu croesau hwy yn awr yw anwastadrwydd ac