Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddarfod. Credwn, fodd bynnag, mai ymateb i'r ansicrwydd hwn ynglŷn â dyfodol Cymru sy'n penderfynu ansawdd llawer iawn o'n prydyddiaeth. Y mae gwaed a doluriau'r genedl Gymreig yn yr awdl hon, ei hamynedd a'i merthyrdod. Y mae cryn ddeheurwydd crefft yn yr awdl. Ar brydiau y mae syndod defnyddio gair unsill i ddiweddu llinell mewn toddaid yn rhywbeth hyfryd ac effeithiol: Er i'th dir fynd yn anrhaith y Dwyrain, Hen grud y glew a chysegredig lain; ond nid yw bob amser mor ffodus. Y mae'r diweddu unsill arall yn yr un toddaid yn enghraifft i'r gwrthwyneb. Gwelwn enghreifftiau o'i gelfyddyd yn ei ddefnydd o eiriau fel seintwar,' clasgor,' a desgant,' i gyfleu awyr- gylch hynafol ac eglwysig ei fyfyrdod, ac yn y defnydd sicr o enwau priod fel Cernyw, Dyfnaint, Gwalas a Manaw. Ym mhryddest y Parchedig David Jones, Treorci'n awr, Cilfynydd gynt, yr ydym mewn byd gwahanol. Troes ef lygad di-wyro ar drychineb Cymru heddiw. Cyfyngir y gorwel a'i lenwi gan dduwch anfad yr alanastr gym- deithasol. Symudodd y dolur o ofid y genedl i dranc yr einioes unigol trwy raib annynol y gyfundrefn gymdeithasol. Cyfrinach nerth y gerdd hon yw'r personoli arwydus a fu ar dywod yr anialwch, ac ar lwch. Fel y cerdda'r gân rhagddi ennill y tywod a'r llwch fawredd un o bwerau di-wrthdro natur. Ennill iddo ei hun hefyd gymeriad cyffredinol y pwerau hynny. Yr hyn sy'n erchyll yw mai un ydyw tywod mileinig bro'r Bedwin a llwch y Rhondda. Ymesyd y naill gyda chynddaredd bwriad ac arfaeth ar y teithiwr diam- ddiffyn, ^a rhidyllir ei babell yn gareiau: trwy rigol dôr Glos ei ddau lygad chwiliwn ffordd ddi-wall At le'r ddwy gannwyll wen, a'u taro'n ddall. Try'r llall ieuengwr cryf y Rhondda yn weiniad llesg. Ond y mae dinistr y silicosis yn waeth na hyn. Tu 61 iddo ef y mae creulondeb annuwiol y pwerau cymdeithasol, a dyfnheir ystyr y gwrth-darö rhwng dyn a'i dynged gan gyf- rifoldeb moesol a dynol. Ychwanegir at hyn hunan-gondemniad y gwr claf a gyfeddyf ei ffolineb yn ymwerthu gorff ac enaid i orthrwm y llwch. Ond y mae hyn eto'n rhan o'r ymgyrch rhyngddo a'i dynged, oblegid peroriaeth cadw ei deulu bach a'i denodd i grafangau'r llwch. Yn y pen draw yr elfennau gwrthnysig yw gorthrwm cynhenid llwch fel pwer naturiol a berson. olwyd, a'r anfoesoldeb cymdeithasol a ollyngodd y gorthrwm hwn yn rhydd i ladd a dinistrio bywyd dynol y Rhondda ym mherson y gwr claf. Y mae rhywbeth tebyg i fawredd yn y gelfyddyd a adawodd i'r ornest aruthrol hon ei gweithio ei hun allan i'w therfyn anorfod yng "nghraith y pridd ar las y cwm." Dyma un enghraifft o'r posibilrwydd arall sydd i brydyddiaetb ein gwlad heddiw,