Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i Socrates wrth ddysgu'r wers i ddinaswyr coegfalch Athen greu gelynion lawer i'w erbyn. Am gyhuddiadau Meletos athrodgar nid anodd yw ateb y rhain. Ni lygrodd Socrates o'i fodd feddwl neb ifanc. Onid gweithred ffôl o'i eiddo fyddai troi ei gyfeillion ifainc yn ddrwgweithredwyr i beri gofid a pherygl iddo ef ei hun? Os llygrodd o'i anfodd feddwl yr ifanc nid oedd yn euog. Yn yr ail le, onid anwiredd amlwg oedd dweud amdano ef ei fod yn ang. hredadun, ac yntau o dan reolaeth gaeth bod uwchnaturiol bob awr o'i fywyd ac yn ymwybodol o hynny? Yna cyrraidd uchafbwynt ei araith. Ei waith yw dihuno dynion i'w han- wybodaeth fel y gwelont yr hyn sydd dda, ac o'i weld ei gyflawni. Yn y modd yma y cyfieithia'r Prifathro y darn godidog hwn "Pe dywedech wrthyf yn wyneb hynny, Socrates, yn awr nid ydym am gredu Anytos; gollyngwn di yn rhydd, ond ar amod dy fod yn peidio ag athronyddu a threulio amser ar yr ymchwil hwn; os ceir di eto yn gwneuthur hyn, ti fyddi faτw '-pe gollyngech fi, fel y dywedais, ar delerau felly, mi atebwn i chwi Wyr Athen, cofleidiaf chwi, caraf chwi, ond ufuddhaf i Dduw yn hytrach nag i chwi, a thra bo ynof anadl a nerth, byth ni pheidiaf ag athronyddu a'ch annog ac argyhoeddi pwy bynnag ohonoch a ddêl ar fy nghyfyl, gan ddywedyd fel arfer Fy nghyfaill annwyl, gwr o Athen wyt, y ddinas fwyaf ac enwocaf am ddoethineb a nerth. Onid yw'n gywilydd gennyt fod dy fryd ar gasglu cyfoeth, cymaint ag a elli, a bri ac anrhydedd, ond am bwyll a gwirionedd ac uchel lwydd dy enaid nid wyt yn gofalu nac yn pryderu?' Nid o gyfoeth y daw rhinwedd, ond trwy rinwedd y bydd cyfoeth a'r holl bethau eraill yn dda i ddynion, ar gudd neu ar gyhoedd. Wyr Athen, cred- wch Anytos neu beidio, a gollyngwch fi'n rhydd neu beidio, ond gwybyddwch na wnaf i amgen, hyd yn oed os rhaid imi farw drosodd a throsodd (xvii.). Ond ar waethaf yr araith gref hon cafwyd Socrates yn euog gan 281 yn erbyn 220 o wyr. Ni fwriadaf sôn yma am iaith na dilysrwydd y cyfieithiad, er y poenir fi, o safbwynt ystyr geiriau Socrates, gan un neu ddau o bethau. Ai ysbrydol yw'r cyfieithiad gorau o daimonios (27c) ? Tybed a fyddai uwchnaturiol yn well?? Eto, paham yr ysgrifennir y duw yn rhannau cyntaf yr araith (e.e., § ix.) a Duw yn y rhannau olaf am yr un gair yn y Roeg? Ond gadawaf fater yr iaith i'r ieithwyr. Credaf y gellir dweud yn ddi-ofn i'r Prifathro lwyddo mewn modd eithriadol i gadw ystyr y gwreiddiol. Y mae gennyf un gwyn yn erbyn yr argraffiad. Trueni na chynhwysid y mynegai arferol ar ymyl y ddalen. Fe hwylusai hynny'r gwaith o gyfeirio at adrannau neilltuol o'r testun. Fe rifa'r Prifathro'r paragraffau, ond nid digon hynny. I ysgolheigion y pwynt mwyaf diddorol ynglyn â'r Amddiffyniad yw hwn: Ai dyma eiriau Socrates ei hun o flaen y llys? Rhydd y Prifathro atebiad cadarnhaol i'r cwestiwn. "Haera rhai mai creadigaeth dychymyg Plato yw'r Amddiffyniad. Mwy rhesymol ydyw credu bod yr araith yn sylweddol