Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr un ag a draethwyd gan Socrates ger bron y Uys" (td. 4&). Dyna farn Burnet, hefyd, a Taylor, y ddau yn ysgolheigion y gellir dibynnu ar eu gair. Wrth gwrs, ni chred neb y cawn yma'r araith air am air fel y traddodwyd hi gan Socrates. Dywaid Burnet: That it is not a word-for-word reproduction of the actual speech delivered by Socrates may be granted at once. Plato was not a newspaper reporter." Ond dywaid eraill yr un mor bendant mai ffrwyth dychymyg Platon yn gyfan gwbl yw'r araith. Dyma a ddywaid Schenz, Bury a Gilbert Murray. Darllenais yn ddiweddar gyda diddordeb mawr lyfr gan R. Hackforth The Comŷosition of Plato's Apology (1933). Cred ef y gorwedd y gwir rhwng y ddwy ddamcaniaeth uchod. Yn ei farn ef y mae'n annhebygol iawn i Socrates draddodi'r ail a'r drydedd ran o'r araith gyntaf fel y cawn hi gan Plato. Cred y cawn Socrates ei hun yn y rhan gyntaf o'r araith gyntaf, ac eto yn yr ail a'r drydedd araith, ond nid yn xi. i xxiv. (24b—35e). Gan mwyaf ffrwyth dychymyg Plato sydd yma. Dadleua Hackforth yn Hwyddiannus iawn, yn fy marn i, dros y ddamcaniaeth newydd hon. Gobeithio y bydd darllen mawr ar y llyfr gwerthfawr hwn, a gobeithio y dilynir ef gan gyfieithiadau eraill o weithiau Plato. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. R. I. Aabon