Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Yr Ysgol Sul" ATEB I ADOLYGIAD. YN y Traethodydd am Hydref diwethaf (1936), ymddengys adolygiad gan y Dr. D. E. Jenkins ar fy llyfr "Yr Ysgol Sul." Nid yw'n arferol i awduron ateb adolygiadau ar eu llyfrau, ac ni wneuthum innau erioed o'r blaen mo hynny. Gwnaf eithriad o'r arfer hon am resymau nad oes ofod i'w nodi. Diolchaf i'r Golygwyr am ganiatáu imi gyfle i ateb. I sicrhau'r cefndir pri- odol i'm sylwadau a chreu'r awyrgylch priodol i'r neb a'u darlleno, dyfynnaf ddau baragraff byr o Ragymadrodd fy llyfr (a) Ynglŷn a'r penodau cyntaf, y llyfr y cafodd ef (yr awdur) fwyaf o oleuni ynddo ydyw gwaith gorchestol y ,Dr. D. E. Jenkins, 'The Rev. Thomas Charles of Bala.' Y mae'r llyfr hwn yn fwynglawdd dihysbydd bron i haneswyr cyfnod Thomas Charles." (b) "Nid ymdrechwyd ysgrifennu hanes yr Ysgol Sul, yn ystyr gyffredin y gair hanes. Penodau ydyw'r gwaith, fel y gwelir, ar wahanol agweddau i'r Ysgol Sul, yn bennaf ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd." Oddi wrth y cyninf o'r ddau baragraff, gwelir syniad yr awdur am waith y Dr. Jenkins, ac oddi wrth yr ail ei syniad am nodwedd y gyfrol ar "Yr Ysgol Sul." Fel cyfrol bobl- ogaidd ar gyfer darllenwyr cyffredin, nid fel cyfrol safonol o hanes, y bwriad- wyd y gwaith. Ymdrechwyd cyfleu ynddi ddarluniau gweddol fyw o wahanol agweddau i fudiad yr Ysgol Sul, er mwyn creu diddordeb newydd ynddi a sêl adnewyddol drosti. Ar yr un pryd, ymdrechwyd bod mor gywir ac mor ddi- duedd ag y gellid ynglyn â'r gwahanol faterion y sylwyd arnynt. Gwêl y darllenydd fod olion brys ar y cyfansoddiad ac i'r awdur lithro, yn eithaf amryfus, yma ac acw, yn enwedig mewn manion. Nododd y Dr. Jenkins yn garedig rai o'r llithriadau hyn, ac y mae eraill nas nodir ganddo. Os gelwir am ail-argraffiad, dyletswydd a fydd eu cywiro. Pan gyflwynai'r awdur ddamcaniaeth, ceisiodd nodi hynny'n ofalus. Nid ydyw dywedyd y dyry yr awdur ddamcaniaethau fel ỳe'n ffeithiau," fel y gwna'r Dr. Jenkins, nac yn deg â'r llyfr nac yn wir amdano. Ar wahân i'r mynegiad cyffredinol disail hwn, dyma'r prif bwyntiau a noda'r adolygydd: (Rhoddir ei eiriau mewn llythrennau italaidd, er mwyn eglurder.)— 1. "Yn ail baragraff ei lyfr, cyfyd yr awdur, unwaith eto, Vr golwg sef- ydliadau'r Archesgob Borromeo, fel pe buasai'r gŵr enwog hwnnw wedi gwneud rhywbeth newydd. Yr unig beth a wnaeth Borromeo oedd cysylltu nifer o eglwysi wrth ei gilydd er mwyn i'r offeiriaid a'r plant gael amrywiaeth. Dwy frawddeg yn unig a roddasom ni i Borromeo, fel enghraifft i gadarn- hau ein gosodiad na olyga'r hyn a honnwn i Charles fychanu dim ar waith neb arall. Dyma'r gyntaf a'r brif frawddeg o'r ddwy: "Er enghraifft, dy-