Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wedir i'r Archesgob Borromeo, yn Itali, sefydlu ysgolion pur gyffelyb i Ysgol- ion Sul Lloegr, ym Milan ddau can mlynedd o flaen Raikes." Cystwya'r adolygydd ni am godi gwaith Borromeo i sylw. Sylwasai'r Parch. T. Levi yn helaethach ar y mater diddorol hwn (Canml. td. 45, 46). A droseddasom ni gymaint tybed trwy feiddio cyfeirio at waith y pabydd enwog ? Dyma a ddywaid un o'i fywgraffwyr "Mais son principal soin fut de fonder (sylwer ar y gair hwn) de tous côtés des écoles chrétiennes, où les éléments de notre religion fussent enseignés gratuitement, et ce fut par cette institution que l'ignorance fut bannie de Milan et de tout diocèse, et que les enfants y devinrent plus savants dans les vérités du Christianisme que les pasteurs ne l'étaient auparavant" (Pet. Boll. iGuèrin, Tome XIII., p. 183). Dyma fras- gyfieithiad "Ond ei brif ofal a fu sefydlu ar bob llaw ysgolion Cristionogol, lle y dysgid yn wirfoddol elfennau ein crefydd, a thrwy'r sefydliad hwn ym- lidiwyd anwybodaeth o Milan ac o'r esgobaeth oll, a daeth y plant yn fwy hyddysg yng ngwirioneddau Cristionogaeth nag a fuasai'r Gweinidogion cyn hynny." A dyma dystiolaeth arall "11 établit (sylwer ar y gair) de petites écoles en divers endroits de son diocèse, mit de bons catéchistes á leur tête, et leur prescrivit d'excellents règlements pour les diriger" (Biog. Univer. Michaud, sub. verb.). Dyma fras--gyfieithiad: "Sefydlodd ef ysgolion plant mewn amryw fannau yn ei esgobaeth a gosododd holwyddorwyr medrus arnynt a lluniodd iddynt reolau rhagorol i'w llywodraethu." Ystyr y gair catéchistes,' medd y geiriadur, ydyw instructor in the fundamental principles of religion.' Eto, "Another great work begun at this time was the Confraternity of Christian Doctrine, in order that the children might be carefully and systematically in- structed. This work was really the beginning of what is now known as the Sunday-School." (Cathol. Enc. III., 621). 2. "Wrth sôn am waith Griffith Jones, cymer Mr. Griffith 1737­61 fel cyfnod ysgolion offeiriad Llanddowror." Y mae dywedyd fel hyn yn hollol anghywir a chamarweiniol. Oblegid ar dudalen 11 o'm llyfr ceir hyn: "Dyma fel y dywaid ef (Griffith Jones), yn y flwyddyn 1738, am ei ymdrech ynglyn â hyn Sefydlwyd yr ysgol gyntaf ryw saith neu wyth mlynedd yn 61. Mae nifer yr ysgolion yn awr yn ddeugain namyn tair.' Wrth gyfeirio at y cyfnod 1737­61, fy unig amcan, fel y gall y darllenydd weled ar unwaith, ydoedd dangos llwyddiant mawr ymdrech Griffith Jones. Soniwyd am 1737 oblegid mai o'r flwyddyn honno ymlaen y ceir ystadegau am yr ysgolion. Dywaid y Dr. Jenkins hefyd gwyddys i Griffith Jones ddechrau sefydlu ysgolion yn 1731." Gan nad oeddwn i lawn cyn sicred ar y pwnc hwn ag ydyw'r Dr. Jenkins bodlonais ar ddyfynu geiriau Griffith Jones. Am yr amser yn fanwl, dyma fel y dywaid yr Athro R. T. Jenkins, M.A., Coleg y Brif- ysgol, Bangor: Y mae'n anodd dywedyd i sicrwydd ym mha flwyddyn y cychwynnwyd yr Ysgolion Cylchynol. Yn ddigon amlwg, nid yn 1731"* Ni biau'r itateiddio.