Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ydoedd iachawdwriaeth eneidiau'r disgyblion. Ni oddefai ddim yn ei ysgol- ion ond a dueddai'n uniongyrchol i hyrwyddo'r amcan cysegredig a goruchel hwn. Ond yn ei syniad ef yr oedd dau beth yn hanfodol, sef dysgu'r disgybl- ion i ddarllen y Beibl, a'u hegwyddori yn egwyddorion Cristionogaeth. 7. Am y stori draddodiadol am yr 'ymdrech yn Nhrawsfynydd,' teimlwn na ddeil y sylfaen ansicr mo'r crynswth damcaniaeth a gyfyd y Dr. Jenkins arni. Oblegid golyga'r ddamcaniaeth hon gyfnewidiad hanfodol yn syniad Charles am gysegredigrwydd ac yn ei gynllun i ddysgu crefydd i'w gyd- genedl. Codir y ddamcaniaeth bwysig hon (sydd mor annhebygol ag y gall odid dim fod pan feddyliom am fawredd y dyn y mae a wnelom ag ef, ac eglurder ei weledigaeth) ar sail stori draddodiadol nad oes sicrwydd nac am ei dyddiad nac am ei hystyr. Os deil neb i honni mai dyna'r ffordd wydd- onol o ysgrifennu hanes nid oes gennym fwy i'w ddywedyd wrtho ar y mater. 8. Awn heibio i esboniad rhyfedd y Dr. Jenkins am yr oediad o dros ddwy flynedd cyn argraffu Catecism Charles gyda dweud bod y syniad y cymerodd ddwy flynedd i Robert Jones, Rhoslan, gynorthwyo Charles i gael Catecism cymharol fyr, a'i sylwedd pennaf yn adnodau o'r Ysgrythur, yn barod i'r Wasg, y tu hwnt i ni! 9. Eto "Prin yr oedd galw am Bennod V. ar 'Aíhrawon Thomas Charles a Chynorthwywyr eraill' gan mai yr Ysgol Sul yw pwnc y llyfr." Am bwy y sonia'r bennod? Dyma'r rhai pennaf John Jones, Penyparc Lewis William, Llanfachreth; John Hughes, .Pontrobert; Owen Jones, y Gelli Ebenezer Richards, Tregaron, a John Parry, Caer. Dim eisiau'r bennod sydd yn sôn bron yn gyfangwbl am y rhain a'u llafur, mewn llyfr ar Ysgol Sul Cymru A ddarllenodd neb erioed beth rhyfeddach ? Y mae rhai pwyntiau eraill, o'r un nodwedd â'r rhai y cyfeiriasom atynt, na chaniatâ gofod inni eu trafod. Ond credwn y dywedwyd digon i'r darllenydd weled paham na allem adael yr adolygiad annheg ac anghywir hwn o eiddo'r Dr. D. E. Jenkins yn ddisylw. Bangor. G. Wynni Griifith.