Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pe bai'n well gan yr Ysbryd Glân anwybodaeth na dysg, bu- asai moddion ei lawenydd yn llawer iawn, ac yn aml iawn, yng nghyfnod y ddau do cyntaf o'r Methodistiaid. Oblegid nid oedd gan y Cyfundeb ei hun sefydliad i demtio neb i ryfygu digio'r Ysbryd Glân trwy gymryd hyfforddiant mewn coleg. Un o'r rhesymau a osodid yn erbyn yr Eglwys Sefydledig fel sefydliad crefyddol oedd ei bod yn dibynnu ar ddysg ac nid ar ddoniau'r Ysbryd Glân. Oblegid yr oedd rhai o'r esgobion yn gofyn am radd coleg fel anhepgor ordeiniad. Ac yr oedd dysg a diwyll- iant yn cyflawni diffyg gras,-y pen yn bwysicach na'r galon,- yn ôl barn llawer iawn o'r hen Ymneilltuwyr. Rhyfedd meddwl bod arweinwyr crefyddol a goleddai'r syniad hwn, wedi mwyn- hau gwasanaeth rhai o'r tadau boreaf, megis Thomas Charles, Thomas Jones, Dinbych, a Simon Llwyd, heb sôn am eraill. I Agorodd yr Arglwyddes Huntingdon goleg yn Nhrefeca, Awst 24, 1768, a chymerodd amryw o fechgyn Cymru fantais ar yr Athrofa honno; ond at y Saeson yr aeth y mwyafrif mawr o'r efrydwyr hynny, naill yng ngwasanaeth eglwysi'r Arglwyddes, neu yn yr Eglwys Sefydledig. Daeth rhai yn ôl at y Corff, megis John Williams, Pantycelyn, a Robert Ellis, yr Wyddgrug; eithr yr oedd rhyddid iddynt fyned i'r lle a fynnent, ond iddynt roddi eu gwasanaeth i Eglwys Crist. Yr oedd Mr. Charles mor bell ei farn oddi wrth y sawl a wrthwynebai roddi addysg i weinidog- ion, ag ydoedd yn ddiweddarach oddi wrth safbwynt gwrthwyn- ebwyr Ysgolion Sul. Cafodd gyfle i ddangos ei farn ef ar y mater pan symudwyd coleg yr Arglwyddes o Drefeca i Ches- hunt. Yr oedd Mr. Charles yn Llundain yn nechrau Medi 1791, a chafodd ar ddeall y bwriedid symud y coleg o Drefeca i le a oedd tua 14 milltir o Lundain. Ysgrifennodd at y Parch. Edward Griffin, B.A., a oedd y pryd hwnnw mewn ciwradiaeth yn Worcester, i ofyn am ei wasanaeth. Buasai'r ddau yn Rhyd- ychen am flwyddyn gyda'i gilydd, a ffurfiwyd rhyngddynt gyfeill- garwch a barodd cyhyd ag y bu Mr. Charles byw. Mr. Griffin a ddug enw Mr. Charles i sylw ei reithor yng Ngwlad yr Haf.