Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tlysaf Cybi yw ei gyfrol am Cae'r Go," yr arloeswr yn Sir Gaernarfon. Huw Llyn yw'r seren gyntaf y cynganeddir iddi (ar ôl y disgrifiad rhag- arweiniol o Ynys y Pererinion "), a Rhisiart William Gruffydd yw'r olaf. I'r bugeilfardd hwnnw, a oedd dad eisteddfod Rhos Hirwaun, fe genir yn helaethach nag i neb arall. Yna try'r serydd ei drem gelfydd oddi wrth dywyniadau'r ffurfafen awenyddol a fu, at arwyddion brawychus yr amser. oedd. Darlunia wedd a chyflwr nwyfre daearol ac anianol y penrhyn yn y dyfodol buan, oblegid croched y galw am gyflym arfogiad y deyrnas. Deheuig yw'r modd y dengys y gwahaniaeth rhwng y tangnefedd sy'n difiannu a'r dwndwr a glywir toc yn nhrwst cethin y blin bla." Rhaid yw dychmygu melyster y tawelwch maethlon gynt er iawn amgyffred mor echryslawn yw rhyfel yn nrych y caniedydd, a hynny nid yn unig ynddo'i hun, ond oblegid y cwbl a berthyn i'r darpar presennol ato, a dygyfor blodau ieuectid heini i ymarfer â thrafod peryglus gywreinrwydd peiriannau ac arfau cyflafan. Lleinw llechres Cybi o Sêr Llyn Doe ("trem," chwedl yntau) dudalen gyfan o brint mân, a gwna fynegair a chyfarwyddiadur (directory) hwylus i'r arwyrain. Gan hynny nid oes raid (â pheidio â sôn am ofod) inni fanylu mwy ar neb ohonynt, chwaethach ddyfynnu o luosogrwydd portreadau amryw- iol eu saernïaeth a threiddgar eu hergyd a'u cymhendod, ag odid bob rhyw enw wedi ei gymwys gyfrodeddu â'r mesurau. Camp ydoedd cyfleu priodol- edd pawb mor gynnil o gofiadwy, a bathu cymal ffres o farwnad ar bob un, blodeuglwm cynghanedd." Fel y canodd yr Archdderwydd am gyngerdd y Tylwyth Teg dan y lloer,- Ond nid canu'n unig am ddoe a fyn yr awdlydd, ond cwyno am heddiw. Tract for the times yw ei "wawd," yr edmygedd a'r gwatwaredd. Tery traean olaf y gerdd dannau ei lid yn erbyn halogi'r tir sanctaidd â pharatoi ffrwydriadau tânbelenni. Facit indignatio versum; o'r ias ddig y wers a ddaw. Rhy astrus i'w drafod yn niweddglo berysgrif o adolygiad llenorol yw "pwnc llosgawl" y bwriad i godi ysgol fomio yn Llyn lonydd, rhag drysed yr holion cysylltiedig ag ef, cenedlaethol a gwleidyddol, crefyddol a moesol: — dywedir mai codi gwal fawr China a barodd dirio o'r Saeson anwar yng Nhaint wedyn. Fel hyn y gellir crynhoi swm gwrthdystiadau a chwynion Cybi gan ddarllenydd nad yw heb gryn gydymdeimlad ardalol â'i ddolef, er gwanned y llinellau hyn wrth ei gywyddau gewynnog yntau:- Dyri brudd am bryder bron, Ac yna dwyn acenion Llinynnau llon yn eu lie." O'i dêr gân, hydr ogan erch Troes i'r treiswyr, od draserch I'w annwyl Lyn, na lanwer A gwenwyn soeg, nen ei Sêr Nwy-ednod i andwyo Bri hawl fraint tu wybrawl fro