Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu hun, yn meddiannu ein calon. Rhaid yw cymhwyso ein hen- eidiau a distewi berw'r pethau dibwys i ddatblygu'r ddawn i ddir- nad cenadwriau Duw. Barnai Plato fod yn rhaid i wr drefnu ei enaid mewn modd a roddai'r flaenoriaeth i bethau uchaf ein natur, rheswm yn bennaf iddo ef, ac arddel eu hawdurdod hwy ar fywyd i gyd, cyn y dichon iddo ddirnad y Da neu'r Perffaith sydd yn hanfod pethau. Onid e, bydd dyheadau cyfyng a theimladau gwyllt yn ein llusgo tua'r ddaear. Ac er bod ein syniad ni am Dduw a daioni ychydig yn wahanol, onid amlygodd Plato amod sylfaenol y profiad ohonynt ? A thybed nad yr un ddeddf ddoeth a barodd iddo ef a'i gyfoeswyr edrych mor ddirmygus ar fasnaoh a mar- siandîaeth, yr ymboeni anniben hwnnw sydd yn hawlio sylw cynifer o rai allasai ymwneud â phethau sy'n werthfawr ynddynt eu hun, y gwastraff ynni a diddordeb mewn ymgiprys nad yw les i neb (er efallai yn anochel yn y drefn bresennol ar gymdeithas) ac sydd mor ddamniol i ffyniant bywyd rhyng-genedlaethol, yr ymfalchio mewn allanolion godidowgrwydd? Rhaid yw trefnu bywyd yn ei wedd bersonol a chymdeithasol mewn modd a dawela ferw'r pethau arwynebol ac a rwyddha rinweddau sicrach ein henaid cyn y gellir bod yn y cywair i glywed y gynghanedd ddwyfol. "O! distewch, gynddeiriog donnau, Tra fwy'n gwrando llais y nef; Swn mwy hoff, a swn mwy nefol, Glywir yn ei eiriau Ef F'enaid gwrando Lais tangnefedd pur a hedd." Y Waenfawr. HYWEL D. LEWIS.