Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

roddiadau, yn y naill iaith fel y llall. Printir sbamps y llythyrdy a'r swyddfa gyllid yn Affricaneg a Saesneg bob yn ail. Mewn lle- oedd fel Cape Town, a elwir Kaapstad yn Affricaneg, rhoddir y ddau enw ar lythyrau wrth eu nodi yn y llythyrdy. Cyhoeddir yn y ddwy iaith drwyddedau modurwyr a moduron, archebau'r Llywodraeth, talebau, ffurflenni cais, a phethau cyffelyb,-weith- iau gyda'r ddwy iaith bob yn ail llinell, dro arall gydag un iaith ar un tu i'r ddalen a'r llall yr ochr arall, neu ynteu ar ffurflenni gwahanol. Dynodir swyddfeydd cyhoeddus ac adrannau ohon- ynt i gyd yn y ddwy iaith. Sylweddolir, gan hynny, ei bod bron yn amhosibl heddiw taro ar swyddog a benodwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth mewn unrhyw adran nad yw'n swyddogol yn arfer dwy iaith. (b) Masnach. Ym myd masnach ymdrechir yn gyffredinol i foddhau'r ddwy ochr. Yn y rhannau gwledig Affricaneg a siar- edir gan fwyaf, a Saesneg yn y trefi, er nad yn gyfangwbl 0 lawer. (c) Yn gymdeithasol a chrefyddol. Perthyn mwyafrif yr Affricanaid i'r Eglwys Ddiwygiedig Isalmaenig (Dutch Refomed Church) a'i chynghreiriaid. Cynhelir y gwasanaeth yn Affricaneg neu yn Nederlandse. Yng nghorff y pum mlynedd diwethaf, bu cyfieithiad Affricaneg o'r Beibl, a gyhoeddwyd gan y Gym- deithas Feiblau Frytanaidd a Thramor, o gynhorthwy mawr i sef- ydlogi'r iaith Affricaneg. Yn naturiol, gwell gan rai y Beibl yn yr Isalmaeneg, am mai hwnnw a ddysgasant pan oeddynt ieuanc. Fe gynnal rhai Eglwysi Diwygiedig wasanaethau Saesneg ar achlysuron arbennig. Cynnal yr eglwysi eraill eu gwasanaethau ran amlaf yn Saesneg, ond defnyddir Affricaneg mewn adrannau neu ganghennau neu gapelau bychain a berthyn i'r rheini. Ym mhob dathlu cyhoeddus, megis Jiwbili'r Brenin, Marw Brenin, neu Ddydd Delville (Dydd Coffau'r Milwyr), cynhelir gwasanaeth cyhoeddus dwy-ieithog, a bydd yr anerchiadau a'r emynau yn y ddwy iaith fel ei gilydd. Y mae'r arfer o gael cyf- ieithydd yn graddol ddiflannu. Mewn llawer lle defnyddir y ddwy iaith ochr yn ochr wrth ddanfon allan wahoddiadau i gyfarfodydd cymdeithasau, priod- asau, neu i gyfarfodydd dathlu pen blwydd gwyr amlwg; ac ar-