Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynd â chyfnewidiau mawr gras yn y dyddiau hynny. Priodol fyddai croniclo arferion y dyddiau hynny, ac fel yr oedd arfaeth Duw wedi ei hargraffu ar y golygfeydd naturiol i bobl o'r teip hynny. Dyma a ddywaid Syr W. M. Ramsay am wlad fechan arall: "More clearly and insistently than in any other land, the philosophy of history, the Will of God as it has wrought in the world, is written on the land- scape of Palestine." Y mae hynny'n wir hefyd am ardaloedd Cymru fel yr oeddynt dros hanner can mlynedd yn 61. Y mae'n anodd tynnu llawer o'r arferion a'r moddion gras oddi wrth ei gilydd. Yr oeddynt yn un i bob pwrpas. Byddai'n fantais aruthrol i ysgolion Cymru a chylchoedd Addysg Pobl mewn Oed dderbyn y Cynllun cyfoethog hwn yn gynnes. Y mae'n wir na bydd arferion a hanes y dyddiau gynt yn golygu'n hollol yr un peth i blant heddiw ag a olygent i ni a'n bath yn y cyfnod hwnnw a aeth heibio. Ond cipia'r plant fendithion a dysg a diwylliant gwerthfawr ar y llwybr hwn, a da fydd brysio at y gorchwyl o gasglu'r defnyddiau cyn i'r bobl a'u cofia fyned ffordd yr holl ddaear. Towyn. EDWARD EVANS.