Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyddid A'r cwn o'u oylch, pob llygad gwyllt Yn llonydd dro! Defaid a myllt Eryri draw; mor ofer sôn Am gau y rhain rhwng cloddiau Môn! Crwydrai'r hen ysfa trwy eu gwaed, Gan herio'r maglau am eu traed; Y bywyd dilyffethair gynt Mewn grug a brwyn, mewn glaw a gwynt. Pa beth yw glaster porfa well Wrth welltyn llwyd copaon pell ? A pheth yw cwn y ffermydd bras I annos rhai a brofodd flas Rhyddid mynyddoedd ? Nid oes mwy A ffrwyna'u hanniddigrwydd hwy. Lonyddwch gwyllt! Oferedd sôn Am gloddiau gwastadeddau Môn. Caernarfon. WILLIAM MORRIS. Hiraethog Ti noddaist Dudur Aled gyda'i lu Cywyddau mirain am y Nef a'r llawr, Aelwydydd Chwibren Isatf a Chae Du, A roes i Gymru'r Gair a'r cewri mawr. Ti noddaist bererinion nefol wlad, Fu'n rhodio'n flin ar draws dy erwau llwyd Neu ddawnsio gylch dy odrau mewn mwynhad: A Thwm o'r Nant yn ei ddiatal nwyd. Daw newydd bethau drosot erbyn hyn, Na wyddant am y byd a noddaist gynt; Ond llifo eto hyd dy bant a'th fryn Mae golau haul a rhin y glaw a'r gwynt. Mae'r byd yn myned heibio gyda dyn, Ond yr wyt ti a'r Nef hyd heddiw'n un. Llwyngwril. ABEL FFOWCS WILLIAMS