Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S.R. a RhyddhaiTr Caethion yn yr Unol Daleithiau I. G.R. yn gyrraedd Tennessee yn 1856, ac S.R. 1857. Ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr, 1855, prynodd S.R., dros brynwyr," fe ddywedir, yn Llanbrynmair," gan mil o erwau o dir yn nwyrain Talaith Tennessee. Cyrhaeddodd rhai o'r ymfud- wyr, a chyda hwy Richard Roberts (a'i galwodd ei hun wedi hynny Gruffydd Risiart"), eu cartref newydd yn y rhanbarth hwnnw yn haf 1856; cychwynnodd eraill, o dan arweiniad S.R., gyda'r bwriad o ymsefydlu yn yr un gymdogaeth, yn 1857, ond nid ymlynodd un wrtho yn hir, a chyn pen ychydig fisoedd nid oedd neb ar ôl ond G.R. a'i deulu ac S.R. Fel y gwyr pawb, methiant torcalonnus a fu'r speculation a wnaeth S.R. yn Tennessee. Er bod rhan ddwyreiniol y dal- aith yn ochri mwy tuag at y Gogledd nag at y De, eto nid ed- rychid ar ymfudo yno gydag unrhyw ffafr gan lawer yng Nghymru, rhag ofn i'r Cymry a ymsefydlai mewn ardal y cedwid llawer o gaethion ynddi gael eu rhwydo ym maglau caethwas- iaeth. Wedi i S.R.. edrych ar y tir a brynodd, gwelodd fod rhyw elfennau' rhyfedd wedi ymyrryd â'r gwaith o'i fesur. Yr oedd Saxton [un o werthwyr y tir] yn lleidr a thwyllwr yn yr ystyr waethaf" (dÿna eiriau Pan Jones yn ei Gofiant i'r "Tri Brawd"), "yr oedd Jones [hen gyfaill i deulu S.R.] yn yr ail radd, a rhoddodd Bebb [cefnder i S.R., a brawd-yng-nghyfraith i Michael D. Jones] ei ddylanwad i gefnogi yr hyn y gwyddai oedd yn dwyll." Ond o bob mater y dylai person a ymgymerai â phrynu a gwerthu tir yn Tennessee ei wybod, y twyll a ddangos- wyd a'r camgymeriadau a wnaed, dro ar ôl tro, yn neilltuol yn y dalaith honno ac yn Kentucky, ynglyn â mesur tir, oedd hwnnw.