Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mhob peth. Sancteiddiodd Crist bersonoliaeth fel y cyfryw. I ddysgeidiaeth gynnil y Stoiciaid am frawdgarwch dug ehangder a gwres ei amlygiad o dadolaeth Duw. Rhoes sylfeini newydd i gyfrifoldeb dynion at ei gilydd drwy ddangos bod ystyr a gwerth tragwyddol i fywyd pob un. Yr oedd- ynt oll i fod yn gyd-ddinasyddion â'r saint ac yn deulu Duw". Ni chyfyngwyd yr efengyl i "rai boneddigion Pethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw Hyn a barai fod Cristionogaeth i'r Iddewon yn dramgwydd ac i'r Groegwyr yn ffolineb. Ond yr oedd yn cydfynd yn well â rhagolwg y Rhufeiniaid. Ac fel y llwyddai crefydd i ddiddymu'r canolfuriau, disgynnai fwyfwy i ran y wladwriaeth i geisio iawn berthynas rhwng dynion heb dreisio'r amrywiaeth yn eu natur o'u harferion. Wrth ogoneddu personoliaeth yr oeddid hefyd yn gosod cyfrifoldeb terfynol ar yr unigolyn yn hytrach nag ar gymdeithas. Ac er i'r Eglwys ystumio llawer ar yr egwyddor hon, cynorthwyai i ddyfnhau'r angen am annibyniaeth wleidyddol ac am yr ymddiriedaeth a ragdybir gan gyfrifoldeb. Honnai Cristionogaeth, ymhellach, mai iddi hi a'i sefydliadau y perthynai gofalu am y wedd ysbrydol i fywyd yr unigolyn a'i foes. Pwysleisid y gwahaniaeth rhwng yr ysbrydol a'r seciwlar. A phethau'r byd hwn yr oedd a wnelai'r wladwriaeth. Nid oedd y gwahaniaeth hwn, yn wir, mor syml ag yr edrych ar yr olwg gyntaf. Onid oes arwyddocâd ysbrydol i bopeth yng nghylch ein profiad? Onid ydym yn foesol ym mhob gweithred? Profodd cwerylon yr oesau a ddilynodd na ellir tynnu llinell derfynol rhwng yr ysbrydol a'r tymhorol na'u rhoddi yng ngofal awdurdodau hollol annibynnol. Ac ni chafwyd ffordd o gyfarfod y broblem hyd y cyfnod modern. Cawn ei thrafod eto. Ond daethpwyd i ddeall nad oedd a fynnai'r wladwriaeth yn uniongyrchol â gweddau pwysicaf ein bywyd, a bod yn rhaid dod rywfodd i delerau â'r cymdeithasau a'u noddai,-datblygiad mwy sylfaenol nag sy'n hawdd i ni ei amgyffred. Un gymdeithas a fuasai yn y cyfnod cyntefig, a honno "oll yn oll Ystyriai hyd yn oed y Groegiaid mai'r wladwriaeth oedd ffynhonnell a chyfrwng digonol pob daioni. Ond bellach y mae bywyd wedi ymrannu. Fel y cyfoethogid ef aethai'n fwy cymhleth. Cawn nifer o gymdeithasau yn lIe un. A rhaid yw gofyn beth yw'r berthynas rhyngddynt.